Carreg â chroes wedi'i cherfio arni, Eglwys Sant Pedr a Sant Illtud, Llanhamlach

Gelwir y garreg hon o'r 10fed - 11eg ganrif yn garreg Moridic neu'n garreg Llanhamlach weithiau. Fe'i cofnodwyd gyntaf tua 1852 ac fe'i defnyddiwyd fel lintel uwchben ffenestr mewn adfail canoloesol i'r de o'r Eglwys. Ym 1874 cafodd ei gosod ger drws y rheithordy a ailadeiladwyd ac yn ddiweddarach yn ochr ddwyreiniol y cyntedd lle y tynnwyd y llun hwn yn ôl pob tebyg. Mae bellach yn yr Eglwys. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 61 / Redknap a Lewis (2007) B32

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llanhamlach
Accession Number: 25.486
Keywords: