Carreg ag arysgrif mewn llythrennau Rhufeinig arni, Egrmwnt (Eglwys Sant Mihangel)

Ychwanegwyd croes yn ddiweddarach at yr arysgrif hon o'r 6ed ganrif i Carantacus (yn ystod y 7fed-9fed ganrif fwy na thebyg). Fe'i cofnodwyd gyntaf tua 1745 yn sefyll yn y fynwent. Erbyn 1889 roedd wedi cael ei hymgorffori mewn bwlch yn wal orllewinol allanol corff yr eglwys, pan ailadeiladwyd yr eglwys ym 1839 o bosibl. Mae'r llun yn dangos y garreg yn y sefyllfa hon. Mae bellach yn yr eglwys. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 143 / Edwards (2007) CM8

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Egrmwnt
Other Numbers: 37119/3
Keywords: carreg