Hygyrchedd – Amgueddfa Wlân Cymru
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.
Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.
Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Datganiad hygyrchedd ein gwefan
Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd.
Eisiau cofrestru?
Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi'i rheoli gan Creu Cymru, mewn partneriaeth â Diverse Cymru yw Hynt; Ewch i wefan Hynt i gael gwybod sut i ymaelodi -https://www.hynt.co.uk/cy/ymunwch/dod-yn-aelod-o-hynt/
Oes cerdyn Hynt gennych chi yn barod?
Gallwch chi archebu tocynnau gyda'ch cerdyn Hynt yn y ffyrdd canlynol:
Wyneb yn wyneb ym mhob un o'n safleoedd: bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i'ch helpu.
Ar-lein: Ychwanegwch Rif eich Cerdyn Hynt at eich cyfrif drwy glicio ar y ddolen hon. Nodwch, gall hyn gymryd hyd at 24 awr i'w brosesu.
Pan fydd eich cyfrif wedi diweddaru gyda'ch manylion Hynt, mewngofnodwch i'ch cyfrif a gallwch archebu eich tocynnau fel arfer. Bydd tocynnau Hynt yn ymddangos wrth ddewis tocynnau. Yr oll sydd angen i chi wneud yw dangos eich Cerdyn Hynt yn y digwyddiad, a dyna ni!
*Sylwer – byddwch chi ond yn gallu ychwanegu’r nifer benodol o docynnau Hynt at eich archeb a osodwyd yn ystod y broses ymgeisio.
Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.
Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa
Mae dwy fynedfa i’r Amgueddfa. Mae’r brif fynedfa wrth ymyl yr olwyn ddŵr. Mae’r fynedfa arall wrth ymyl y prif faes parcio y tu ôl i’r adeilad. Does dim grisiau i’r naill fynedfa na’r llall.
Parcio hygyrch
Mae 3 lle parcio dynodedig i bobl anabl yn y maes parcio, cyn croesi’r bont. Mae parcio am ddim i bawb.
Adegau Tawel
Gall yr Amgueddfa fod yn swnllyd weithiau, yn enwedig pan fydd y peiriannau hanesyddol yn gweithio. Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae ein holl orielau yn cau am 4.45pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.
Ardaloedd tawel
Mae ardal eistedd dawel i fyny’r grisiau ger murlun y Pentref, ac mae ardal eistedd gyfforddus ar bwys y llyfrau ail-law yn y caffi.
Lifft a mynediad i’r orielau
Mae lifft i’r llawr cyntaf yn y prif adeilad, yn yr Iard Hir. Mae lifft risiau ar gael yn y Sied Wehyddu i edrych i lawr ar y gweithle hanesyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r lifftiau yn yr Amgueddfa yn addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, ac maen nhw’n defnyddio cyhoeddiadau sain. I weld lleoliadau’r holl lifftiau, edrychwch ar ein map o’r Amgueddfa. Mae arwyddion sy’n nodi ble mae pob lifft a sut mae’n gweithio. Bydd staff yr Amgueddfa wrth law i helpu.
Goleuadau a thymheredd
Mae’r Amgueddfa yn defnyddio golau a sain i adrodd straeon. Bydd golau a lliwiau gwahanol ym mhob oriel. Mae golau isel yn yr Oriel Decstilau i warchod y tecstilau hanesyddol sy’n cael eu harddangos.
Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa, ac mae rhai orielau a gofodau’n eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.
Llawr anwastad
Cofiwch mai adeilad hanesyddol yw hwn ac mae’r llawr yn anwastad mewn rhai mannau; byddwch yn ofalus yn yr ardaloedd hyn.
Toiledau Hygyrch
Mae toiledau hygyrch oddi ar y prif adeilad ac yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
Cyfleusterau newid cewynnau
Mae cyfleusterau newid cewynnau yn nhoiledau’r merched a thoiledau’r dynion yn yr Amgueddfa, ac yn y toiled hygyrch yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
Benthyg cadair olwyn
Mae dwy gadair olwyn ar gael i’w benthyg ar gais o’r siop. Mae’r cadeiriau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, a does dim modd eu harchebu o flaen llaw. Yn anffodus, allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o’r Amgueddfa.
Sgwteri symudedd
Mae croeso i chi ddefnyddio sgwteri symudedd yn yr Amgueddfa.
Clirio’r safle mewn argyfwng
Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – bydd goleuadau coch yn fflachio i dynnu eich sylw at y larwm. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf.
Seddi
Mae rhai seddi yn rhai o’r orielau, mannau cyhoeddus, y caffi, yn y tiroedd ac yn yr Ardd Liwurau.
Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.
Seiniau Cyfoethog
Mae sgriniau sy’n chwarae fideos yn rhai o’r orielau, a bydd seiniau diwydiannol, pobl yn siarad a mwy mewn orielau eraill. Cadwch lygad am y symbolau llygad a thrwyn yn y stori weledol.
Cŵn gwasanaeth
Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Dylai cŵn gwasanaeth gael eu goruchwylio a’u cadw dan eich rheolaeth drwy gydol eich ymweliad, gan aros ar dennyn a gwisgo’r tabard neu’r harnais priodol, yn ddelfrydol. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf. Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r caffi.
Dolenni Sain
Mae dolenni sain wedi’u darparu wrth y Dderbynfa, yn y siop, ac wrth gownteri’r caffi. Mae’r holl ddolenni sain yn gweithredu ar y gosodiad ‘T’. Gosodwch eich cymorth clyw i’w actifadu.
Bagiau synhwyraidd
Mae nifer gyfyngedig o fagiau synhwyraidd ar gael i’w benthyg am ddim o’r Dderbynfa. Mae’r rhain yn ffordd ddifyr i helpu ymwelwyr i archwilio’r Amgueddfa. Mae’r bagiau yn cynnwys:
Clustffonau canslo sŵn
Teganau fidget
Tortsh
Chwyddwydr
Map Synhwyraidd