Y blog sgrinwyna: Sgrinwyna

Nawr hyrddod, rhoddwn glod...

Bernice Parker, 5 Hydref 2015

...y mae’r Hydref wedi dod.

(ymddiheuriadau i’r awdur anhysbys)

Ar ôl bwrw’r gym ac ymbincio, bellach mae’r bois yn barod amdani. Fel hyrddod wedi eu bridio o’n praidd pedigri, mae’n rhaid gadael i ganfod cariad, ac felly mae nhw ar y ffordd i’r farchnad i gael eu gwerthu.

 

Bydd ein hyrddod bridio’n cyrraedd y cae defaid ar ddechrau Hydref, a’r ŵyn cyntaf yn cael eu geni gobeithio ddechrau Mawrth. Gwyliwch ferched, mae’r bois ar y ffordd!

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

The final countdown

Bernice Parker, 25 Mawrth 2015

Another successful lambing season at St Fagans is drawing to a close. We hope you’ve enjoyed watching all the action live on Lambcam along the way. There are still a few ewes left to deliver, as I write this the lamb-o-meter has clocked up 144. We’re on course to beat our target of 150 lambs, and hope to pass 160. That figure includes:

  • 5 sets of triplets
  • One set of quads (our first ever).

There’s been some losses along the way:

  • One set of twins - early miscarriage.
  • One set of twins – stillborn.
  • Four lambs accidentally smothered by their mothers
  • One triplet failed to thrive – died at 2 days old.

We are expecting to finish with two lambs being bottle fed – that’s Herbert, the smallest of the quads, and another lamb whose mother's milk dried up due to mastitis. So until next year, here is a picture of Herbert enthusiastically tucking into his lunch yesterday.

 

Herbert yr oen yn bwyta ei ginio - a hanner ohono fo drost ei wyneb

See you in 2016 Lambcam-ers!

sut i wybod bod oen ar y ffordd

Bernice Parker, 18 Mawrth 2015

Helo na Sgrinwynis - dyma'r ateb i'r cwestiwn fwya poblogaidd o'r sied wyna eleni.

'Sut allwch chi ddweud bod dafad ar fin rhoi genedigaeth?'
 

Dyma rai o’r prif arwyddion:

  • Cuddio yn y gornel - yn y gwyllt, byddai hyn er mwyn osgoi ysglyfaethwyr
  • Llyfu gweflau – paratoi i lanhau’r oen wedi iddo gael ei eni
  • Aflonydd – codi a gorwedd bob yn ail
  • Pawennu’r llawr – creu ‘nyth’ i’r oen gael ei eni ynddo
  • Corff i’w weld yn tynhau yn rheolaidd
  • Llysnafedd, bag dŵr neu bâr o draed i’w gweld yn dod allan o’r ddafad!

A gan bod fi mor hael - dyma llun o'r cwads cyntaf erioed Sain Ffagan. Ganwyd neithiwr...

Ffrwd byw o’r sied Ŵyna

Wyna – gwir pob gair

Bernice Parker, 10 Mawrth 2015

·         Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o ddefaid magu felly rydyn ni’n disgwyl dros 150 o wyn.

·         Mae’n defaid ni’n ddwyflwydd oed yn wyna am y tro cyntaf.

·         Mae dafad yn feichiog am 5 mis:

  • maen nhw’n dod i’w tymor ym mis Medi
  • rydyn ni’n rhoi’r hyrddod mewn gyda’r defaid ar 1 Hydref
  • bydd cyfnod wyna yn cychwyn ddechrau mis Mawrth
  • ni sy’n dewis y drefn yma er mwyn cael wyn i’w gweld yn y caeau dros y Pasg.

·         Mae’r defaid beichiog yn dod mewn o’r caeau’n syth ar ôl y Nadolig er mwyn cael lloches, bwyd a gofal ychwanegol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer datblygiad yr wyn.

·         Maen nhw’n cael eu sganio yn y flwyddyn newydd er mwyn eu gwahanu i ddau grwp:

  • y rhai sy’n disgwyl oen sengl
  • a’r lleill sy’n disgwyl gefeilliaid neu dripledi.

·         Pen a choesau blaen yn arwain ydy’r ffordd arferol i oen gael ei eni. Os felly, mae’r defaid fel arfer yn gallu ymdopi heb unrhyw gymorth. Ond weithiau bydd angen ychydig o help os yw’r oen yn fawr, neu’n dod allan am yn ôl.

·         Wedi bwrw, bydd y ddafad a’i hwyn yn mynd mewn i gorlan ar wahân:

  •  er mwyn sefydlu perthynas famol
  •  i atal defaid heb eu bwrw rhag ‘mabwysiadu/dwyn’ oen dafad arall.

·         Maen nhw’n aros ar wahân am 1–2 diwrnod.

·         Mae defaid a’u hwyn sy’n iach yn cael mynd allan i’r caeau ar ôl 3–5 diwrnod – os yw’r tywydd yn caniatáu.

·         Mae’n beth arferol i weld rhywfaint o waed a slwtsh o gwmpas pen ôl dafad sydd wedi bwrw yn ddiweddar.

·         Mae’n beth arferol i wyn newydd gysgu llawer – rhyw 12–16 awr y dydd.

·         Bydd y rhan fwyaf o’r wyn benywaidd yn aros gyda ni neu’n cael eu gwerthu fel defaid pedigri. Bydd yr wyn gwrywaidd yn mynd i’r lladd-dy am eu cig, gyda chwpl o’r goreuon yn cael eu gwerthu fel hyrddod.

·         Mae’r cig oen ar eich plât yn 4–12 mis oed.

 

ŵyna yn fferm Llwyn-yr-eos

Gareth Beech, 3 Mawrth 2015

Wyna yw un o amseroedd pwysicaf a phrysuraf y flwyddyn ar y fferm. Mae’n golygu oriau hir, ddydd a nos, yn gwylio dros, ac yn gofalu am y defaid, i wneud yn siwr bod eu ŵyn yn cyrraedd yn ddiogel ac yn goroesi yn y diwrnodau cyntaf. Mae ŵyn yn ffynhonnell bwysig o arian oherwydd gellir eu gwerthu ar gyfer eu cig, ac ar gyfer stoc newydd i’r ddiadell.

Mae cadw defaid yn rhan sylweddol o amaethyddiaeth yng Nghymru oherwydd eu bod yn gallu ymdopi yn dda â’r ucheldir, yr hinsawdd gwlyb ac â thir gwael. Gall defaid oroesi a ffynnu ar laswellt tiroedd uchel ac isel Cymru. Gellir cynhyrchu gwlân, cig, llaeth, crwyn a gwêr ar gyfer canhwyllau o ddefaid, a gellir defnyddio eu tail i wrteithio’r tir.

Mae’n debygol mai defaid bach, brown Soay oedd y defaid cyntaf yng Nghymru. Daethant yma gyda ffermwyr Neolithic tua 6 mil o flynyddoedd yn ôl. Daeth y Rhufeiniad â defaid o safon uwch, gyda gwynebau gwyn a gwlân main. Cadwyd y defaid ar gyfer eu gwlân yn unig. Roedd gan ffermwyr Rhufeinig enw da am gynhyrchu gwlân o safon. Trwy groesi y defaid gwyneb gwyn gyda’r defaid Soay cynhyrchwyd defaid â gwyneb brown golau, hynafiaid y defaid Cymreig gwydn sydd wedi byw ar ucheldiroedd Cymru ers dros ddwy fil o flynyddoedd.

Erbyn y Canol Oesoedd mae’n debyg bod defaid yn cael eu cadw ar gyfer eu gwlân a’u llaeth yn hytrach na’u cig. Bu gwlân yn goruchafu tan y Chwyldro Diwydiannol ond o ganlyniad i’r tŵf yn y boblogaeth yn y ddeunawfed ganrif cynyddodd y galw am gig.

Cig oedd prif gynnyrch defaid ac ŵyn yn yr ugeinfed ganrif, yn gwerthu am llawer mwy o arian na gwlân. Heddiw, cynhyrchu ŵyn tewion yw prif incwm llawer o ffermydd Cymru. Yn 2013 roedd allforion cig oen Cymreig werth £154.7 miliwn. Y cwsmer tramor mwyaf yw Ffrainc, ac yna’r Almaen. Roedd 9.74 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru yn 2014.