Lle Chwarae Sain Ffagan
Lle chwarae newydd Sain Ffagan
Mae Yr Iard ger y brif fynedfa a'r caffi.
Mae'n lle i blant gael chwarae'n greadigol; lle i neidio, dringo, a rhedeg o gwmpas. Gobeithio bydd eich plant wrth eu boddau!
Ysbrydoliaeth o'r Casgliadau
Cafodd yr ardal chwarae arbennig hon ei dylunio gan yr artist Nils Norman, gyda chymorth ymchwil gan Imogen Higgins a Fern Thomas.
Mae wedi'i ysbrydoli'n bennaf gan yr adeiladau hanesyddol, sy’n clymu’r ardal â gweddill y safle. Treuliodd Nils lawer o amser ar y safle ac yn yr archifau yn ymchwilio i'r adeiladau a'r casgliadau.
Datblygwyd Yr Iard fel rhan o raglen Artistiaid Preswyl Sain Ffagan, sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Bu'r artistiaid hefyd yn gweithio gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodland a phlant a theuluoedd o Ysgol Gynradd Hywel Dda.