Digwyddiad:Rhedeg yr Inclen Cludo Llechi

Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i weld yr inclen cludo llechi ar waith!

Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd y chwarelwyr yn cael y llechi i lawr y mynydd at y trenau? Yr ateb yw – gyda inclenau!  

Llwythid y llechi ar wagenni a fyddai’n trafeilio i lawr yr inclein ar gledrau at y gwaelod, lle caent eu gwagio. Byddai gwrthbwys wedyn yn tynnu’r wagenni gweigion yn ôl i fyny’r inclein a byddai’r broses yn cychwyn eto!  

Adeiladwyd Inclein Vivian rhwng 1873 - 1877. Cafodd y darn V2 ei hadfer yn 1998, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Dyma'r unig inclein cludo llechi gweithiol ym Mhrydain heddiw!  

Lleolir yr inclein ym Mharc Gwledig Padarn. I gyrraedd, ewch heibio gorsaf Rheilffordd y Llyn a dilyn y llwybyr. 

Fydd arddangosiadau o'r inclen yn mynd ymlaen am un awr am 12.30yp a 3.00yp ar y dyddiau canlynol:

28 Hydref

Mae'r gweithgaredd yma yn rhan o Wŷl Amgueddfeydd Cymru. 

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru

Logo yn llawn logos ariannwyr

Gwybodaeth

28 Hydref 2026, 12.30yp - 1.30yp & 3.00yp - 4.00yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau