Digwyddiad:Teithiau Camau Nesaf - Ymweliad Hetiau Caled

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae rhan helaeth o’n gwrthrychau bellach wedi’u cludo’n ddiogel i’n Canolfan Gasgliadau arbenigol i’w cadw’n saff, ac mae’r cam nesaf yn hanes yr Amgueddfa wedi dechrau gyda dechrau’r gwaith adfer.

Ymunwch â ni am gipolwg arbennig y tu ôl i’r llenni o ein gofodau hanesyddol wrth i waith adfer ac ailddatblygu barhau.

Byddwn yn eich tywys o amgylch y safle ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn sydd wedi digwydd a fydd yn digwydd i'r mannau arbennig hyn fel rhan o'r project ail-ddatblygu cyffrous. 

Mae’r teithiau AM DDIM ond rhaid trefnu eich lle ymlaen llaw. 

Bydd y daith yn cael ei gynnal tu mewn a tu allan ar safle adeiladu gweithredol, lle gall fod yn oer ac yn anwastad, felly mae'n ofynnol i chi gwisgo dillad cynnes ac esgidiau priodol (er enghraifft; esgidiau cerdded). Yn anffodus, nid yw’r safle’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn nac i rai â symudedd cyfyngedig. Gofynnir i ymwelwyr ddilyn pob cyfarwyddyd diogelwch yn ystod y daith. 

Bydd aelod o’r tîm ar gael drwy gydol y daith i sicrhau eich diogelwch a’ch cynorthwyo os oes angen.       

Mae’r gweithgaredd yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.

I ddarganfod mwy am y prosiect ail-ddatblygu ewch i: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu                                          

Logo yn llawn logos ariannwyr

Gwybodaeth

11 Mehefin, 1yh, 2yh & 3yh
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Sold Out
Pobl mewn festiau oren llachar a hetiau caled ar safle Amgueddfa Lechi Cymru
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
11 Mehefin 2026 Sold Out 
11 Mehefin 2026 Sold Out 
11 Mehefin 2026 Sold Out 

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau