Ymweld Am Ddim

 Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Lleoliad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: llechi@amgueddfacymru.ac.uk

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

 Ydw i’n gallu dod a’r ci?

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn y theatr, yr orielau, y tai hanesyddol, y gweithdy hollti llechi na'r caffi. 

Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser. 

Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.

Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.

 Bwyta, Yfed, Siopa

Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu. 

Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. 

Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus. 

 Grwpiau

Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.

Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio slate@museumwales.ac.uk am y manteision canlynol:

  • Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).

Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal

Dewch i ddarganfod stori Cymru Llechi Cymru Eryri 360

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.