Ciniawau Gala
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cartref ein casgliad cenedlaethol o gelfyddyd gain a chymhwysol, yw un o leoliadau mwyaf blaenllaw’r brifddinas i gynnal eich digwyddiad gala.
Ar gyfer cinio gwirioneddol fawreddog, byddem yn cynnig ein Neuadd Fawr eiconig. Gyda'i grisiau marmor godidog a'i nenfwd uchel dan gromen fawreddog, mae lle i hyd at 280 ar gyfer swper rownd byrddau yn y lleoliad eiconig hwn. Mae'n gwbl hygyrch gyda ramp trwy’r prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach.
Siaradwch â'n tîm i weld sut allwn ni deilwra'ch cinio'n arbennig i chi, boed trwy oleuadau yr un lliw â'ch brand, cymorth technegol ar gyfer anerchiadau a chyflwyniadau neu addurno'r lleoliad – eich digwyddiad chi yw hwn, a'ch Amgueddfa chi yw hon.
Gallwn gynnal perfformiadau gan ddawnswyr, corau, artistiaid clasurol, bandiau a mwy i ddiddanu'ch gwesteion yn ystod neu ar ôl amser bwyd. Siaradwch â'n tîm arbenigol am argymhellion. Beth am ychwanegu at bleser eich gwesteion ymhellach a rhoi derbyniad iddyn nhw yn ein horielau trawiadol wrth gyrraedd, a'u hamgylchynu gan un o'r casgliadau gorau o gelf argraffiadol yn Ewrop, gan gynnwys gweithiau eiconig gan Renoir, Cézanne a Monet.
Darperir arlwyo gan un o'n harlwywyr trydydd parti o fri. O bryd tri chwrs i bwffe penigamp, gall ein cyflenwyr ddarparu ar gyfer eich anghenion, gan gynnwys bwydlenni cynaliadwy.
O ran llety, mae gan Gaerdydd ddigon o ddewis o westai ar gyfer eich gwesteion, ond mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gynnig arbennig gyda Gwesty Clayton sy’n rhoi gostyngiad o 15% ar gyfraddau llety i gynrychiolwyr wrth archebu gan ddefnyddio ein cyswllt cleient y gallwn ei rannu unwaith y bydd eich digwyddiad wedi’i gadarnhau gyda ni.
Rydym wedi cynnal ciniawau gyda balchder i gleientiaid fel Knights Brown Construction, Legal & General a Vodafone Business.
Mae prisiau llogi lleoliad i chi yn unig yn dechrau o £3,900 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau pwrpasol i gael dyfynbris ar gyfer eich anghenion cinio gala.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cysylltwch â ni i drafod, llogi neu drefnu ymweliad a'r safle