Cyfarfodydd

  • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau coch, llwyd a gwyrdd ger sgrin fawr yn dangos gwyrddni.

Wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig lleoliad heb ei ail ar gyfer cyfarfodydd yn y brifddinas.

Ar gyfer cyfarfodydd mawr ar ffurf cynhadledd, mae gan ddarlithfa hardd Reardon Smith daflunydd, sgrin wal a system PA bwrpasol, gyda lle i hyd at 300 o bobl a hyd at 7 defnyddiwr cadair olwyn.

Ar gyfer cyfarfodydd llai, mae gennym amrywiaeth o opsiynau. Mae ein Hystafell Oriel ger ein Bwyty yn cynnig cyfleusterau cyflwyno clyweledol a lle i hyd at 80 o bobl, ond mae modd rhannu'r gofod hwn hefyd gan fod waliau sleidio yn cynnig ystafelloedd cyfarfod llai o faint ar gyfer rhwng 10 a 50 o bobl.

Mannau cwbl hygyrch gyda ramp drwy'r prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach.

Edrychwch ar ein tudalennau Ystafelloedd Cyfarfod am fwy o wybodaeth.

Ar gyfer cyfarfodydd diwrnod llawn, beth am gymryd hoe fach a chrwydro arddangosfeydd rhyfeddol yr amgueddfeydd a chartref casgliad cenedlaethol Cymru o gelfyddyd gain a chymhwysol rhwng sesiynau.

Siaradwch â'n tîm i drafod gofynion eich cyfarfod, p'un a yw'n alwadau hybrid, siartiau troi, sgriniau symudol ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo a phrisiau llogi.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cysylltwch â ni i drafod ymhellach, i logi ystafell neu drefnu ymweliad

Cysylltwch â ni

  • Bwrdd a chadeiriau mewn ystafell fach, mae cadeiriau coch a llwyd o gwmpas y bwrdd. Yn erbyn y wal gefn mae teledu wedi ei osod drws nesaf i'r drws
  • Rhesi o gwpanau te a soseri gwyn gyda llwyau wedi’u trefnu’n daclus ar fwrdd; goleuni meddal a chefndir aneglur.
  • Ystafell gynadledda fodern gyda rhesi o fyrddau a chadeiriau, mae dau sgrîn fawr yn dangos 'Amgueddfa Cymru' ar y wal, mae'r nenfwd wedi'i banelu â phren gyda goleuadau wedi'u gosod.
  • Ystafell gynadledda gyda bwrdd hirsgwar gwyn mawr wedi'i hamgylchynu gyda cadeiriau coch, llwyd, a gwyrdd. Mae paneli pren ar y waliau, a sgrin yn dangos pobl. Mae goleadau yn y to goleuadau nenfwd, a fentiau yn amlwg bob ochr ir ystafell
  • Ystafell gyfarfod gyda bwrdd hirsgwar wedi ei amgylchynu a chadeiriau yn y canol, mae rhai cadeiriau yn goch a rhai eraill yn wyrdd. Mae carped llwyd ar y llawr a bwrdd hir wedi ei wthio yn erbyn y wal o dan sgrin mawr