Cynadleddau

  • Awditoriwm hanner crwn gyda seddi coch, llwyfan pren a dau feicroffon. Mae gan y lefel uchaf ffenestri tal a cholofnau gwyn.

Wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig lleoliad heb ei ail ar gyfer cyfarfodydd yn y brifddinas.

Ar gyfer cyfarfodydd mawr ar ffurf cynhadledd, mae gan ddarlithfa hardd Reardon Smith daflunydd, sgrîn wal a system PA bwrpasol, gyda lle i hyd at 300 o bobl a hyd at 7 defnyddiwr cadair olwyn.

Ar gyfer cyfarfodydd llai, mae gennym amrywiaeth o opsiynau. Mae ein Hystafell Oriel ger ein Bwyty yn cynnig cyfleusterau cyflwyno clyweledol a lle i hyd at 80 o bobl, ond mae modd rhannu'r gofod hwn hefyd gan fod waliau sleidio yn cynnig ystafelloedd cyfarfod llai o faint ar gyfer rhwng 10 a 50 o bobl.

Mannau cwbl hygyrch gyda ramp drwy'r prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach.

Edrychwch ar ein tudalennau Ystafelloedd Cyfarfod am fwy o wybodaeth.

Ar gyfer cyfarfodydd diwrnod llawn, beth am gymryd hoe fach a chrwydro arddangosfeydd rhyfeddol yr Amgueddfa a chartref casgliad cenedlaethol Cymru o gelfyddyd gain a chymhwysol rhwng sesiynau.

Siaradwch â'n tîm i drafod gofynion eich cyfarfod, p'un a yw'n alwadau hybrid, siartiau troi neu sgriniau symudol, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo a phrisiau llogi.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, i drafod gofynion cyfarfod neu i logi ystafell gyfarfod.

Cysylltwch â ni

  • Neuadd fawreddog gyda nenfydau a cholofnau uchel, yn brysur gyda phobl mewn digwyddiad. Mae baneri Cymru ynghlwm wrth y rheiliau ar y llawr uchaf.
  • Theatr wag gyda seddi coch, piano mawr ar ochr chwith y llwyfan a sgrin fawr yn dangos delwedd o du mewn adeilad.
  • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau coch, llwyd a gwyrdd ger sgrin fawr yn dangos castell a gwyrddni.
  • Mae person yn sefyll o flaen poster gwyddonol tra bod un arall yn tynnu llun. Mae mynychwyr a stondinau i'w gweld gerllaw.
  • Awditoriwm hanner crwn gyda seddi coch, llwyfan pren a dau feicroffon. Mae gan y lefel uchaf ffenestri tal a cholofnau gwyn.
  • Ystafell gynadledda fodern gyda rhesi o gadeiriau gwag yn wynebu sgrin fawr yn dangos delwedd a thestun, gydag acenion pren drwyddi draw.
  • Awditoriwm gwag gyda rhesi o seddau cyfforddus coch wedi'u trefnu mewn hanner cylch yn wynebu'r llwyfan. Mae'r waliau wedi'u paentio mewn lliwiau cynnes, mae nifer o ffenestri tal yn sicrhau goleuni naturiol yn y gofod.