Derbyniadau

  • Mae dynes yn chwerthin tra'n dal glasied o win; mae pobl wedi ei hamgylchynu gan gynnwys dynes gyda gwallt byr sydd hefyd yn gwenu.

Yn gartref i un o gasgliadau mwyaf trawiadol Ewrop o gelf fodernaidd ac argraffiadol, mae ein Horielau Celf Argraffiadol a Modern yn cynnig gofod cain a soffistigedig i gynnal eich digwyddiad.

Wedi'u lleoli ar y llawr cyntaf yng nghanol yr amgueddfa, gall gwesteion fwynhau derbyniadau diodydd wrth edmygu gweithiau gan artistiaid byd-enwog fel Monet, Rembrandt, Van Gogh a’r eiconau Cymreig Augustus a Gwen John.

Gan gynnwys darnau gwerthfawr o'n casgliad cenedlaethol ni, mae ein horielau trawiadol yn darparu lleoliad unigryw a diddorol ar gyfer derbyniadau, nosweithiau lansio agos-atoch, priodasau a phartneriaethau sifil.

Mae ein horielau yn gwbl hygyrch gyda mynediad lifft i bob llawr gan gynnwys y tai bach, a digon o le ar gyfer hyd at 300 o westeion.

Mae'n hawdd diwallu eich anghenion o ran systemau PA, seinyddion ac offer clyweledol eraill. I ddiddanu'ch gwesteion, gall deuawdau neu bedwarawd llinynnol, neu delynores greu’r naws ar gyfer eich digwyddiad yn y mannau hyn.

Siaradwch â'n tîm i wybod mwy am yr opsiynau arlwyo. At ddibenion cadwraeth, dim ond diodydd clir sy'n cael eu gweini yn yr orielau.

Ymhlith y cleientiaid sydd wedi mwynhau nosweithiau yn ein horielau mae FOR Cardiff, Knights Brown Construction a'r Celtic English Academy.

Mae prisiau llogi lleoliad unigryw yn dechrau o £3,700 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau ymroddedig i gael dyfynbris i gynnal eich digwyddiad yn ein horielau.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, i logi neu drefnu ymweliad

Cysylltwch â ni

  • Mae rhesi o wydrau gyda siampen ynddynt yn sefyll ar fwrdd gyda lliain ddu.
  • Grwp o bobl yn cymdeithasu mewn ystafell olau a lloriau pren, mae'r waliau yn olau hefyd gyda gweithiau celf arnyn, mae dau ddyn ar flaen y llun, un yn gwisgo siwt du ar llall yn gwisgo crys llwyd a chrys t tywyll
  • Tri pherson yn sgwrsio mewn oriel gelf gyda gweithiau celf lliwgar o'u cwmpas yn y cefndir
  • Torf wedi ymgynnull yn neuadd fawr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda nenfwd uchel, mae colofnau bob ochr i'r neuadd, a goleuadau porffor. Mae portread wedi'i beintio yn y cefndir.
  • Mae grŵp o bobl wedi ymgynnull o gwmpas bwrdd gyda cwpnanau a soseri gwyn arno. Mae dyn ar y dde yn  arllwys coffi i un o'r cwpanau. Mae mwy o bobl i'w gweld yn y cefndir ynghyd a cholofnau gwyn a ffenestri
  • Dwy ddynes yn sefyll o flaen darlun mawr mewn oriel gelf. Mae'r darlun yn dangos dau berson yn rhedeg drwy'r stryd gydag adeiladau yn y cefndir.