Orielau

Dwy ddynes yn sefyll o flaen darlun mawr mewn oriel gelf. Mae'r darlun yn dangos dau berson yn rhedeg drwy'r stryd gydag adeiladau yn y cefndir. Edit

Yn gartref i un o gasgliadau mwyaf trawiadol Ewrop o gelf fodernaidd ac argraffiadol, mae ein Horielau Celf Argraffiadol a Modern yn cynnig gofod cain a soffistigedig i gynnal eich digwyddiad.

Wedi'u lleoli ar y llawr cyntaf yng nghanol yr Amgueddfa, gall gwesteion fwynhau derbyniadau diodydd wrth edmygu gweithiau gan artistiaid byd-enwog fel Monet, Renoir, Van Gogh a’r eiconau Cymreig Augustus a Gwen John.

Gan gynnwys darnau gwerthfawr o'n casgliad cenedlaethol ni, mae ein horielau trawiadol yn darparu lleoliad unigryw a diddorol ar gyfer derbyniadau, nosweithiau lansio agos-atoch, priodasau a phartneriaethau sifil.

Mae ein horielau yn gwbl hygyrch gyda mynediad lifft i bob llawr gan gynnwys y tai bach, a digon o le ar gyfer hyd at 300 o westeion.

Mae'n hawdd diwallu eich anghenion o ran systemau PA, seinyddion ac offer clyweledol eraill. I ddiddanu'ch gwesteion, gall deuawdau neu bedwarawd llinynnol, neu delynores greu’r naws ar gyfer eich digwyddiad yn y mannau hyn.

Siaradwch â'n tîm i wybod mwy am yr opsiynau arlwyo. At ddibenion cadwraeth, dim ond diodydd clir sy'n cael eu gweini yn yr orielau.

Ymhlith y cleientiaid sydd wedi mwynhau nosweithiau yn ein horielau mae FOR Cardiff, Knights Brown Construction a'r Celtic English Academy.

Mae prisiau llogi lleoliad unigryw yn dechrau o £3,700 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau ymroddedig i gael dyfynbris i gynnal eich digwyddiad yn ein horielau.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

Cysylltwch â ni

  • Oriel gelf gyda llawr pren, yn cynnwys paentiadau, cas arddangos mahogani ar gyfer cerfluniau llai a cherflun efydd canolog o ddau ffigur yn cofleidio.
  • Oriel gelf eang gyda lloriau pren a nenfwd uchel gyda ffenestr yn y to, yn arddangos paentiadau, cerfluniau a gosodiadau crog.
  • Arddangosfa mewn oriel gelf yn cynnwys gosodiad o ffigur mawr mewn het ddu dal gyda siôl, sgert las a thair coes, yn sefyll yng nghanol yr ystafell.
  • Oriel gelf wedi'i goleuo'n llachar gyda lloriau pren; mae paentiadau'n hongian ar y waliau llwyd golau a cherfluniau yng nghanol yr ystafell.
  • Mae dau gerddor o Awen Duo yn chwarae'r ffidil a'r sielo mewn oriel gelf, gyda gweithiau celf wedi'u fframio a stondinau cerddoriaeth i'w gweld.