Priodasau

Diolch am ystyried Amgueddfa Cymru ar gyfer eich priodas a llongyfarchiadau ar eich dyweddïad!

Rydym wrth ein bodd bod gennych ddiddordeb mewn cynnal eich diwrnod arbennig yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae gan yr Amgueddfa ddwy oriel sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer priodasau – yr Oriel Gelf Argraffiadol a Modern a'r Oriel Gelf Hanesyddol – ac mae ein Neuadd Fawr eiconig yn lleoliad perffaith i gynnal derbyniad yng nghalon y brifddinas.

Nid ydym yn cynnig pecyn seremoni yn unig. Os ydych chi'n chwilio am opsiynau gwledd briodas yn unig, rhowch wybod i ni.

Mae costau ar gyfer offer technegol fel meicroffonau, systemau PA a goleuadau i'w pennu yn seiliedig ar ofynion.

Os ydych chi'n chwilio am adloniant, boed yn DJ, cerddorion byw neu ddawnswyr, mae gennym gysylltiadau ar gyfer amrywiaeth o opsiynau adloniant addas i'ch noson.

Darperir arlwyo drwy ein cwmni arlwyo trydydd parti o ddewis. Siaradwch â'n tîm i wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael.

Os oes gennych chi ddyddiadau penodol mewn golwg, rhowch wybod i mi fel y gallwn wirio ein bod ar gael.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, neu os ydych am drefnu ymweliad, cysylltwch â ni!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad i drefnu llogi ar gyfer priodas neu i drefnu ymweliad.

Cysylltwch â ni

  • Mae'r ystafell wedi ei baratoi ar gyfer priodas, mae rhesi o seddi coch wedi eu lleoli o flaen yr organ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar ben pob rhes mae canwyllau a phetalau blodau
  • Gan edrych tuag at yr organ mewn galeri yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae priodferch a priodfab yn dal dwylo ac yn cychwn ar gerdded lawr yr eil tra bod teulu a ffrindiau ar eu traed yn gwylio
  • Y neuadd fawr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae byrddau cwrdd yn eistedd o dan olau glas, mae'r byrddau wedi cael eu trefnu ar gyfer brecwast priodas, mae blodau yn sefyll yn uchel yng nghanol y byrddau
  • Bwrdd blaen wedi ei drefnu yn barod ar gyfer brecwast priodas, mae gwydrau a jwgiau dwr hefyd ar y bwrdd ynghyd a blodau
  • Mae priodfab a priodferch yn sefyll mewn galeri o flaen eu gwesteion, o'u cwmpas mae darlunioau ac eitemau o'r casgliadau
  • Mae priodferch y sefyll yng nghanol galeri yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae 3 dynes yn ei hamgylchynnu a mae'n gwenu
  • Mae gwr a gwraig newydd yn dawnsio gyda'u gilydd yn Neuadd Fawr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tra bod ffrindiau a theulu yn gwylio ac yn gwenu