Hanes Meddygaeth Lysieuol yng Nghymru, 1840 i 1948

Ysgoloriaeth ymchwil Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru / Prifysgol Aberystwyth

Tudalen deitl llyfr Fictoraidd o'r enw 'Llysieulyfr Brytanaidd'.

Mae'n bleser gan Brifysgol Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyhoeddi bod ysgoloriaeth ddoethurol wedi'i hariannu'n llawn ar gael o fis Chwefror 2026 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.

Mae’r prosiect hwn yn ystyried hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ac yn gofyn beth mae’n ei ddweud wrthym am ddealltwriaeth a phrofiadau pobl Cymru o iechyd, meddygaeth, byd natur a’r amgylchedd yn y cyfnod modern.

Trwy astudio llyfrau hunangymorth llysieuol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, casgliadau o ryseitiau llysieuol a chyfweliadau hanes llafar yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a’r casgliad planhigion, llysieufa, a banc hadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae’r prosiect yn archwilio’r dylanwadau amrywiol a luniodd meddygaeth lysieuol yng Nghymru a sut roedd y Cymry yn ceisio edrych ar ôl eu hiechyd a’u lles.

Mae’r dyfarniad AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref amser llawn UKRI ar gyfer graddau doethuriaeth a chynhaliaeth lawn i bob myfyriwr. Yr Isafswm Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2025/26 yw £20,780 (yn codi yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn.

Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y naill law, ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar y llaw arall.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer yr ysgoloriaeth hon. Ni fyddai’r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Funding Opportunities: Graduate School, Aberystwyth University

Dyddiad cau: Dylid cyflwyno erbyn 5yh BST ar 10 Rhagfyr 2025.

Sut i wneud cais: Ymwelwch â https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/pg-studies/apply/ a llenwch y ffurflen gais.

Yn ail, cysylltwch â Dr Steve Thompson sdt@aber.ac.uk i nodi fod cais wedi’i gyflwyno.