Datganiadau i'r Wasg

Casgliad Swffragetiaid prin yn cael ei arddangos am y tro cyntaf

Mae casgliad prin o gofroddion Swffragetiaid Cymru wedi cael ei arddangos am y tro cyntaf yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Eiddo'r swffragét Kate Williams Evans oedd eitemau'r casgliad, gafodd ei gaffael gan Amgueddfa Cymru yn 2018. Yn eu plith mae medal streic newyn, a llyfr wedi'i lofnodi gan swffragetiaid blaenllaw fel Emmeline Pankhurst ac Emily Wilding Davison.

Ganwyd Kate Williams Evans yn Llansanffraid ym 1866, cyn teithio i Baris yn fenyw ifanc lle magodd ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth. Wedi dychwelyd i Gymru, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod a dod yn swffragét. Cafodd ei harestio ym 1912 am achosi 'difrod maleisus' ac mae ei gwŷs gan yr Heddlu Metropolitan yn rhan o'r casgliad. 

Byddai menywod ar streic newyn yn aml yn cael eu gorfodi i fwyta gan awdurdodau carchardai. Mae'r casgliad sydd bellach yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys Medal Ymprydio hynod brin a roddwyd i Kate i gydnabod ei dewrder a'r driniaeth ohoni yn y carchar.

Dywedodd Sioned Hughes, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru:

“Mae hwn yn gasgliad eiconig yn adrodd hanes mudiad y swffragetiaid ym Mhrydain ac Iwerddon y cyfnod.

Er bod casgliadau o eiddo swffragwyr yng Nghymru ac esiamplau o ddrwgdeimlad tuag at swffragetiaid, prin oedd yr eitemau yn ein casgliadau gan y swffragetiaid eu hunain. Mae'r casgliad yn gaffaeliad pwysig i gasgliadau hanes gwleidyddol a chenedlaethol Cymru, ac mae'n bleser gallu cyflwyno rhai o'r eitemau i'n hymwelwyr am y tro cyntaf yn oriel Cymru...”

Ymhlith yr eitemau eraill mae baner brotest ar fenthyg gan Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Gwnaed y faner gan Cardiff & District Women's Suffrage Society ar gyfer gorymdaith yn Llundain ym 1908.

Dywedodd Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd:

“Braint Prifysgol Caerdydd yw cydweithio ag Amgueddfa Cymru i ddathlu'r symbol eiconig hwn o'r frwydr gynnar dros y bleidlais yng Nghymru.

“Mae'n un o drysorau ein casgliadau archifol ac mae'n bleser cael rhannu gwrthrych mor bwysig, a'i hanes rhyfeddol, gyda Chaerdydd, Cymru a'r byd.”

Ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd mai Sain Ffagan oedd Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf - gwobr amgueddfaol fwyaf y byd.

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Mae cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn ein teulu o amgueddfeydd.  

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi  pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. 

Diwedd