Datganiadau i'r Wasg

Bywyd Richard Burton: Arddangosfa newydd sy’n adrodd hanes seren ryngwladol y llwyfan a’r sgrin

Mae arddangosfa newydd sbon am fywyd Richard Burton yn datgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau – yn ŵr, yn dad, yn ddarllenydd, yn sgwennwr a Chymro balch. Mae Bywyd Richard Burton, a fydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, yn adrodd hanes rhyfeddol sut y daeth Richard Jenkins, y crwt o Bont-rhyd-y-fen a Thai-bach, Port Talbot, i fod yn Richard Burton, y seren ryngwladol ar lwyfan ac ar y sgrin.

Bywyd Richard Burton
21 Tachwedd 2020-11 Ebrill 2021

Bydd yr arddangosfa, sy’n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys dyddiaduron, dogfennau a gwrthrychau personol Richard Burton, a gaiff eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Mae’r eitemau ar fenthyg i’r Amgueddfa gan Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Ymysg uchafbwyntiau eraill sydd wedi’u benthyg i ni ar gyfer yr arddangosfa mae rhai o wisgoedd llwyfan Richard Burton o’r perfformiadau Shakespeare fu’n sbardun i’w yrfa, a gwisgoedd o Cleopatra, y ffilm Hollywood a newidiodd ei fywyd.

I gyd-fynd â’r arddangosfa ffisegol ceir arddangosfa ddigidol ar wefan yr Amgueddfa o ganol mis Rhagfyr ymlaen. Wedi’i chynhyrchu gan Focus Group, asiantaeth ddylunio a chreadigol yng Nghaerdydd a Chaeredin, caiff yr arddangosfa ddigidol ei diweddaru yn rheolaidd gyda straeon allweddol ac eitemau. Dyma arwydd o newid yn y modd y bydd yr Amgueddfa yn mynd i’r afael ag arddangosfeydd y dyfodol, gyda’r gobaith o adeiladu ar ei chynnwys digidol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:

“Does dim amheuaeth fod Richard Burton yn eicon cenedlaethol hyd heddiw. Ni fyddai modd i ni adrodd y stori hon heb gymorth Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sally Burton am rannu ei chasgliad personol.

“Dyma’r arddangosfa gyntaf i archwilio ei fywyd yn llawn a rhannu sut y dyrchafwyd bachgen ifanc o gefndir gwerinol yn ne Cymru i ennill ei le fel un o’r Cymry enwocaf erioed, dyma stori ysbrydoledig yng nghyd-destun Cymru; sut mae ein gwlad arbennig yn llwyddo y tu hwnt i bob disgwyliad.

“Mae amgueddfeydd ac orielau yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau lles ein cenedl ac rwy’n falch fod Amgueddfa Cymru wedi gallu gwireddu’r arddangosfa hon ynghanol yr amgylchiadau anodd a wynebwn yn sgil y pandemig.”

Dywed yr Athro Martin Stringer, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Casgliad Richard Burton yn Abertawe yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth wreiddiol ynglŷn â bywyd a gwaith Richard Burton, ac mae Canolfan Richard Burton yn arwain y ffordd o ran ymchwil amlddisgyblaethol ym maes astudiaeth ddiwylliannol Gymreig. Mae Prifysgol Abertawe wrth ein boddau o fod wedi gallu benthyg eitemau a chyfrannu ein harbenigedd at yr arddangosfa hon, lle caiff ymwelwyr, a’r sawl sy’n mynd at yr arddangosfa ar-lein, weld y bu Richard Burton yn ŵr diwylliannol, deallusol ac yn llyfrbryf o’i gorun i’w sawdl.”

Cyfrannodd Sally Burton, gweddw Richard Burton, nifer o’r gwrthrychau i Brifysgol Abertawe yn 2005, gan greu Archif Richard Burton. Dywed Sally:

“Aeth Richard ar daith anferthol o Gymru at lwyfan y byd. Roedd rhywbeth eitha rhyfeddol amdano, roedd hynny’n amlwg o oedran ifanc. Rwy’n credu bod pawb gwrddodd ag e wedi teimlo hynny. Roedd pobl yn cael eu hatynnu ato. Roedd hi’n rhinwedd hudolus, ac roedd e hefyd yn gwbod ei fod yn meddu ar y rhinwedd honno, ond dodd e ddim yn hollol siŵr beth oedd hi. Un peth oedd e’n ei wybod odd bod yn rhaid iddo ei dilyn, gan oresgyn rhwystrau wrth fynd. Weithiau byddai’n gofyn, “what is it about me?” Dwi’n credu y bydd yr arddangosfa hon – a mae’n rhaid imi ddiolch i bawb gyfrannodd – yn ein galluogi ni i archwilio rhai o’r atebion diddorol hynny.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amgueddfa.cymru/RichardBurton

Diwedd