Datganiadau i'r Wasg

Cynfas, cylchgrawn celf ar-lein: Galwad am gyfranwyr i'r trydydd rifyn

Rydym yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i gyfrannu erthyglau (hyd at 2000 o eiriau), projectau celf ar-lein, neu ymyriadau celfyddydol ar gyfer ein rhifynnau thematig misol. Croesewir cyfraniadau mewn unrhyw gyfrwng i’w cyhoeddi ar y platfform ar-lein, gan gynnwys fideo, sain a chyfryngau wedi’u mewnblannu.

Bydd ein trydydd rhifyn yn canolbwyntio ar Fwyd a Chynaliadwyedd. Mae ein ffordd o fyw wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar, ac rydyn ni’n dal i geisio gweld ein ffordd yn glir i’r dyfodol. Rydym yn wynebu her a chyfle i ailadeiladu ac ail-ddychmygu.

Beth yw perthynas Bwyd a Chynaliadwyedd â dyfodol y Celfyddydau yma yng Nghymru?

Oes gennych chi weledigaeth o ddyfodol sydd â chyfiawnder bwyd, lle mae gan bawb yng Nghymru ddigon i’w fwyta?

Sut allwn ni gyrraedd yno, a sut allwn ni fel artistiaid ddefnyddio ein sgiliau creadigol i arwain y ffordd?

Sut allwn ni ailadeiladu ac ail-ddychmygu celfyddydau a diwylliant celfyddydol Cymru er mwyn gwasanaethau pob un o’n cymunedau?

Yw hi’n amser gweddnewid?

Rydym yn chwilio am gyfraniadau yn cynnwys elfennau o’r canlynol:

  1. Deunydd dewr a deniadol yn adlewyrchu hanes ac arferion cyfoethog y diwylliant gweledol yng Nghymru
  2. Ymateb i waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru
  3. Rôl celf ac artistiaid yn sbarduno newid
  4. Profiadau personol
  5. Awgrymiadau ar sut y gall addysg adlewyrchu ac ymdrin â’r drafodaeth hon
  6. Sut y gellir ail-ddychmygu’r dyfodol.

Mae croeso i chi gyfeirio at weithiau ar Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru, neu gelf weledol arall y mae gennych hawl i’w atgynhyrchu.

Does dim rhaid bod yn feirniad celf. Rydym am glywed gwahanol leisiau sy’n edrych ar ddiwylliant o safbwynt gwahanol ac yn eiddgar i glywed lleisiau’n ymateb i ymgyrchu Mae Bywydau Du o Bwys a We Shall Not Be Removed.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg.

Mae dyddiad cau ceisiadau bellach wedi ei ymestyn i 18.12.20

Sylwer – Rhaid cyflwyno gwaith gwreiddiol sydd heb ei gyhoeddi o’r blaen.

Y broses ymgeisio

  • Cyflwyno crynodeb 200 gair o’r erthygl neu’r project i maeve.heath@museumwales.ac.uk 
  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a pharagraff byr yn cyflwyno eich hun
  • Bydd panel cymysg yn adolygu’r crynodebau o fewn 10 diwrnod ac yn penderfynu ar rai i’w datblygu
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl (£250) am eu cyfraniad

Os ydych chi’n ystyried cyfrannu ac am wybod rhagor, cysylltwch â selena@auberginecafe.co.uk.