Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer pedwerydd rhifyn Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru. Y thema yw QUEER LOOKING | GOLWG QUEER ac rydyn ni am glywed gan leisiau queer a trans o bob cwr o Gymru, yn Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.
Dylai cyfranwyr ddefnyddio un o weithiau celf neu wrthrychau’r Amgueddfa fel man cychwyn, a’i ysgrifennu mewn unrhyw fesur – erthygl, traethawd personol, cerdd, gwaith beirniadol neu ysgolhaig. Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau am weithgareddau creadigol all gael eu cyflwyno ar-lein. Mae croeso i ymgeiswyr bori ein Casgliadau Ar-lein am ysbrydoliaeth, ac mae gweithiau yn y casgliad o bwysigrwydd arbennig i gymunedau a hanes LGBTQ+ a'u hanes wedi'u casglu yma.
Dyddiad cau'r ceisiadau 200 gair yw dydd Llun 8 Chwefror – gweler yr holl wybodaeth ar sut i wneud cais ar waelod y dudalen. Ni ddylai’r cyfraniadau terfynol fod yn fwy na 2,000 o eiriau, ac yn cynnwys delweddau a chyfryngau wedi mewnblannu all gael eu cyflwyno ar blatfform ar-lein. Y golygydd gwadd yw Dylan Huw, awdur a gweithiwr celf dwyieithog yn byw yng Nghaerdydd.
Yn y rhifyn hwn o Cynfas rydym am drafod rhai o’r cwestiynau canlynol, ond rydym yn croesawu ceisiadau sy’n trafod unrhyw agwedd ar y ‘golwg’ queer neu trans a’i berthynas at newid cymdeithasol yng Nghymru ddoe a heddiw.
Fel gyda phob rhifyn o Cynfas, rydyn ni’n chwilio am gynnwys dewr a deniadol sydd heb ei gyhoeddi’n flaenorol, ac sy’n amlygu ac yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth celf Cymru ddoe a heddiw, gan gyfeirio’n benodol at waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.
Does dim angen profiad ysgrifennu proffesiynol neu addysg greadigol i ymgeisio. Rydym am glywed lleisiau sy’n edrych ar gelf o berspectif gwahanol, ac yn eiddgar i glywed ymatebion parchus i ymgyrchu BLM a We Shall Not Be Removed. Mae rhifynau blaenorol Cynfas wedi trafod Mae Bywydau Du o Bwys (gol. Umulkhayr Mohamed), Celfyddyd mewn Iechyd (gol. Angela Maddock) a Bwyd a Chynaliadwyedd (ar y gweill, gol. Selena Caemawr).
Y broses gyflwyno:
Os ydych chi’n ystyried cyfrannu ac am wybod rhagor, cysylltwch â dylanaberystwyth@gmail.com.