Datganiadau i'r Wasg

Beth yw eich atgofion o’r BBC? Mae Amgueddfa Cymru yn awyddus i glywed eich straeon wrth lansio arddangosfa newydd mewn partneri

Bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal arddangosfa i ddangos y rôl hanfodol y mae’r BBC wedi chwarae ym mywydau bob dydd pobl Cymru dros y 100 mlynedd diwethaf.

Bydd yr arddangosfa yn digwydd yng Nghaerdydd rhwng Hydref 2022 a Gwanwyn 2023 i gydfynd â dathliadau canmlwyddiant y BBC. Mae hefyd yn nodi 100 mlynedd o ddarlledu yng Nghymru a ddechreuodd ar 13 Chwefror 1923, gyda’r darllediad radio cyhoeddus cyntaf o Gaerdydd.

Bydd curaduron ein hamgueddfa nawr yn tyrchu i archif a chasgliadau helaeth y BBC i ddod o hyd i ddelweddau, clipiau ffilm a gwrthrychau ar gyfer yr arddangosfa newydd hon. Fodd bynnag, mae staff yr Amgueddfa hefyd eisiau clywed straeon ac atgofion gan y cyhoedd.

Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur: Hanes Cyfoes, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: “2022 yw canmlwyddiant y BBC, ac wrth baratoi at yr arddangosfa, hoffem glywed gennych chi. Beth yw eich uchafbwyntiau o’r BBC? Pa atgofion o’r BBC sydd wedi aros gyda chi a pham? Pa sianeli neu orsafoedd radio ydych chi’n eu mwynhau fwyaf? Beth yw eich atgofion o deledu y BBC dros y Nadolig?

“Ynghyd â straeon, hoffem glywed os oes gennych unrhyw gofroddion; teganau o’ch hoff raglenni teledu, sticeri, bathodynnau, posteri, crysau-T. Cysylltwch â ni ac anfonwch ffotograffau, ffilmiau ac atgofion nail ai drwy ebost casglu@amgueddfacymru.ac.uk neu ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Mae Amgueddfa Cymru a BBC Cymru Wales wedi dechrau partneriaeth saith mlynedd. Bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu rhaglenni cyhoeddus, sy’n cynnwys y rhaglen hon. Byddant hefyd yn ceisio gwneud eu casgliadau a’u hymchwil yn hygyrch yn gorfforol ac yn ddigidol. Mae’r ddau sefydliad wedi’u hymrwymo i rannu profiadau, gan helpu i gefnogi ein cymunedau a lles Cymru wedi COVID-19.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydym wrth ein boddau i sefydlu’r bartneriaeth bwysig hon â BBC Cymru. Mae’r BBC yn sefydliad eiconig ac mae gan BBC Cymru gymaint o hanes, mae’n rhaid i ni adrodd ei stori. 100 mlynedd ers ei sefydlu rydym yn awyddus i’r cyhoedd yma yng Nghymru i rannu eu profiadau a’u gwrthrychau er mwyn creu arddangosfa hyfryd, ac rwy’n siŵr y bydd hon yn apelio at gynulleidfaoedd o bob oed.”

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “Wrth i’r BBC agosau at ei chanmlwyddiant, mae arddangos hanes darlledu Cymru yn ffordd wych o nodi’r garreg filltir arwyddocaol hon, ynghyd â myfyrio ar drawsnewidiad rhyfeddol y diwydiant. Does dim amheuaeth y bydd y bartneriaeth egnïol hon gydag Amgueddfa Cymru yn datguddio trysorau o’r dyddiau a fu, gan sbarduno atgofion o raglenni’r gorffennol, ond efallai’n bwysicach, yn nodi canrif o arloesi a fydd yn ysbrydoli darlledwyr y dyfodol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru. Gyda’n gilydd, dyma gartref casgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i dyfu fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Enillodd un o’i hamgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019. 

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am bob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen digwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

DIWEDD