Datganiadau i'r Wasg

Ailagor amgueddfeydd cenedlaethol ar draws Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn falch i gyhoeddi y bydd yn dechrau ailagor ei amgueddfeydd i'r cyhoedd o ddydd Mercher 19 Mai 2021.

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, oll yn ailagor ar ddydd Mercher 19 Mai a byddant ar agor bob dydd Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul drwy archebu o flaen llaw. 

Bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn ailagor ar ddydd Iau 20 Mai a bydd ar agor bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul drwy archebu o flaen llaw. Nid yw'r daith danddaearol ar gael ar hyn o bryd.

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn ailagor ar ddydd Iau 20 Mai a bydd ar agor bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn, Sul a Llun yn mis Mai ac yn newid i Mercher-Sul o Fehefin ymlaen.

Bydd Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion hefyd yn agor ar ddydd Iau 20 Mai ac ar agor bob dydd Iau, Gwener a Sadwrn drwy archebu o flaen llaw. 

Bydd pob un o'r saith Amgueddfa hefyd ar agor ar Wyliau Banc - dydd Llun Mai 31 a dydd Llun 30 Awst 2021.

Fodd bynnag, nid yw rhai ardaloedd a nodweddion o'r Amgueddfeydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'n bosib na fydd rhai o'r adeiladau hanesyddol mewn safleoedd megis Sain Ffagan ac Amgueddfa Lechi Cymru ar agor ond bydd profiad 360° gradd newydd sbon o'r gofodau mewnol ar gael ar gyfer rhai adeiladau er mwyn i bobl allu gwylio'n ddigidol.

Mae'n rhaid i bob ymwelydd archebu ei ymweliad am ddim o flaen llaw ar y wefan neu drwy ffonio. Caiff hyn ei wneud er mwyn rheoli niferoedd ymwelwyr a sicrhau diogelwch ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol. Rydym yn gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld er lles staff ac ymwelwyr. Gall ymwelwyr ddilyn Amgueddfa Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol neu'r wefan am fanylion ar sut i archebu a beth i'w ddisgwyl, www.amgueddfa.cymru.

 

Er mwyn sicrhau fod profiad yr ymwelwyr mor ddiogel a braf â phosib, bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i ddefnyddio ystod o fesurau Covid sy'n cynnwys rheoli nifer ymwelwyr ar y safle drwy gyflwyno archebu ymlaen llaw, arwyddion ymbellhau cymdeithasol drwy'r gofodau cyhoeddus, systemau unffordd, a rhagor o lanhau.

Bydd ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gallu mwynhau nawfed rhifyn arddangosfa Artes Mundi a’r wobr gysylltiedig am y tro cyntaf o ddydd Merch 19 Mai ymlaen.

Mae’r arddangosfa, sy’n cael eu cyflwyno ar draws Caerdydd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39, yn cynnwys gwaith mewn amrywiaeth o gyfryngau gan chwe artist gan greu achlysur sy’n rhoi ystyriaeth i gyfres blethedig o hanesion a materion sy’n parhau i ddigwydd ar draws ein cymdeithasau a chymunedau, llawn cymaint yma yng Nghymru ag yn unman arall yn y byd.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae'n bleser gennym allu croesawu ymwelwyr yn ôl i'n hamgueddfeydd cenedlaethol.  

"Rydym yn ailagor unwaith eto gydag ystod lawn o fesurau diogelwch yn eu lle er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau ymweliad diogel a braf.

"Rydym oll wedi wynebu heriau digynsail dros y misoedd diwethaf ac er ein bod wedi bod ar gau rydym wedi parhau i gefnogi miloedd o bobl yn ein cymunedau ar draws Cymru i ymgysylltu gyda'n hamgueddfeydd a'n casgliadau cenedlaethol. 

"Bydd ein hamgueddfeydd a'n casgliadau yn adnodd pwysig ar gyfer gwellhad ac adfywiad y genedl yn 2021 a thu hwnt a dwi'n gobeithio y bydd pawb yn dychwelyd i ymweld â ni a'n cefnogi ni."

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o'r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o ddigwyddiadau poblogaidd Amgueddfa Cymru ar gael i'w mwynhau adref ar-lein. Mwy o wybodaeth am Amgueddfa Dros Nos: Byd Natur Gartref neu Hwyrnos: Y Fagddu ar y wefan www.amgueddfa.cymru

 

DIWEDD

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke, Rheolwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar 07961223567 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.