Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn derbyn enwebiad i restr fer Gwobr Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd

Cyhoeddwyd heddiw (6 Gorffennaf 2021) fod Amgueddfa Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Kids in Museums yng nghategori Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd.

Kids in Museums yng nghategori Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd.

Cafodd Amgueddfa Cymru ei chydnabod am ei chyfres o ddigwyddiadau Amgueddfa Dros Nos: Gartref, a welodd gannoedd o bobl ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt yn cymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’i selio ar eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru, gan gynnwys deinosoriaid a'r byd naturiol.

Mae elusen Kids in Museums wedi cynnal gwobr flynyddol am y 15 mlynedd diwethaf, gan gydnabod y safleoedd treftadaeth sydd mwyaf cyfeillgar i deuluoedd yn y DU. Dyma'r unig wobr sy’n cael ei farnu gan deuluoedd.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, gwahoddwyd teuluoedd ledled y DU i bleidleisio dros eu hoff atyniad treftadaeth a'u hoff weithgaredd digidol ar wefan Kids in Museums. Yna, aeth panel o arbenigwyr amgueddfeydd trwy gannoedd o enwebiadau i restr fer o 20 o atyniadau treftadaeth.

Meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru,

"Rydym wrth ein bodd yn cael ein henwebu yn y categori hwn. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed iawn i addasu i heriau'r 18 mis diwethaf er mwyn gallu dod â'n digwyddiadau poblogaidd i'n hymwelwyr allu mwynhau'n ddigidol, o gartref, ble bynnag y bo hynny. Bu'n bleser gallu dod â gwên i blant o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt yn Affrica, yr Unol  Daleithiau a'r Iseldiroedd"

Mae Amgueddfa Cymru yn cystadlu yn erbyn pedair amgueddfa arall yn y categori Gweithgaredd Digidol Gorau.

Dros wyliau'r haf, bydd beirniaid y teulu yn rhoi cynnig ar yr holl weithgareddau digidol ar y rhestr fer a bydd eu hadborth yn penderfynu enillydd. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

Dilynwch Wobr yr Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd ar Twitter drwy @kidsinmuseums a #FamilyFriendlyMuseum.

Mae'r Wobr Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd wedi bod yn bosibl drwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.