Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn adrodd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru.

Mae arddangosfa newydd sy’n agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru’r penwythnos hwn yn adrodd hanes aelodau cenhedlaeth Windrush a ymgartrefodd yng Nghymru. Mae Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes i’w gweld yn Sain Ffagan o 2 i 31 Hydref 2021 cyn teithio i amgueddfeydd cenedlaethol eraill ar draws Cymru tan fis Mawrth 2022.

Ym 1948 cyrhaeddodd yr Empire Windrush ddociau Tilbury yn Essex, yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî. Roedd y bobl hyn wedi gadael teulu a ffrindiau er mwyn ateb galwad Prydain am weithwyr wedi’r rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd o bobl eraill ôl eu traed, a llawer ohonynt yn ymgartrefu yng Nghymru.

Roedd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn destun project hanes llafar diweddar, a gynhaliwyd gan Race Council Cymru a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ar gyfer y project bu aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru o bob cwr o’r wlad yn rhannu eu straeon am fudo a’u hatgofion o greu bywyd newydd yng Nghymru.

 

Mae’r arddangosfa bwerus yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Yn yr arddangosfa cewch ddysgu am hanes eu teithiau i Gymru, a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell – fel dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

 

Mae’r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.

Caiff Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei gyflwyno gan Race Council Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru, “Mae Cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr a pharhaol i Gymru, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Race Council Cymru i adrodd y straeon pwysig hyn.

Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan broject Windrush Cymru yn cael eu harchifo yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol o brofiadau Cenhedlaeth Windrush yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i Hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau â ni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi OBE, sylfaenydd Race Council Cymru a symbylydd project Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes:

“Rwy’n falch o fod wedi cefnogi’r Hynafiaid ers blynyddoedd, gan wrando ar eu hapêl i’w straeon gael eu cofnodi er lles eu disgynyddion. Rwyf wrth fy modd bod y project a’r arddangosfa hon wedi dwyn ffrwyth – mae’n arbennig o bwysig gweld y straeon hyn yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”

 

Dywedodd Vernesta Cyril OBE: “O’r diwedd mae cymdeithas wedi cydnabod Cenhedlaeth Windrush, fel y gellir adrodd ein straeon am genedlaethau i ddod.”

 

Dywedodd Mrs Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Hynafiaid Windrush Cymru: “Rwyf mor falch o’r arddangosfa hon, mae’n foment werthfawr i bob un ohonom. Dyma ein straeon ni, ac os na ydym yn eu rhannu nawr, byddant yn cael eu colli. Mae’r Windrush yn bwnc poenus ac emosiynol ond mae’n rhaid i ni adrodd ein straeon. Mae’n bwysig i ni, i’n plant, ein wyrion a’n wyresau, ac i’r ysgolion. Mae angen i bawb wybod ein bod wedi bod trwy lawer. Mae Duw wedi dod â ni drwyddi. Tiger Bay oedd y lle gorau i fyw ynddo, fe ddes i draw yn ‘59. Roedd pawb yn edrych ar ôl pawb, a doedd dim problemau.”

 

Bydd yr arddangosfa yn teithio i:

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – 2 Hydref i 31 Hydref 2021

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – 4 Tachwedd 2021 i 2 Ionawr 2022

Amgueddfa Lechi Cymru – 8 Ionawr i 23 Ionawr 2022

Amgueddfa Wlân Cymru – 28 Ionawr i 14 Chwefror 2022

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – 19 Chwefror i 6 Mawrth 2022 

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae mynediad i bob un ohonynt yn rhad ac am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

DIWEDD