Datganiadau i'r Wasg

Rhaglen lawn o arddangosfeydd yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn 2022

Mae rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a digwyddiadau yn aros ymwelwyr yn saith safle Amgueddfa Cymru yn 2022. O ffotograffiaeth bywyd gwyllt a phum can mlynedd o gelf yng Nghaerdydd i fwyd stryd yn Abertawe, a straeon Cenhedlaeth Windrush Cymru yn teithio’r wlad, mae yma rywbeth i bawb!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rheolau Celf? yn parhau tan 2023
Mae Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn trafod y berthynas rhwng gwahanol fathau o gelf, yn edrych o’r newydd ar sut y caiff gwahanol arddulliau eu dyrchafu a’u diystyru, straeon pwy sy’n cael eu hadrodd, a phwy sy’n cael llais. Mae’r arddangosfa yn crynhoi pum canrif o baentio, darlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, ffilm a cherameg i godi cwestiynau am gynrychiolaeth, hunaniaeth a’r amgylchedd. Drwy gydweithio ag artistiaid ac awduron a phartneriaid cymunedol bydd elfennau o’r arddangosfa yn cael eu dehongli gan amryw o leisiau gwahanol. Mae Rheolau Celf? i’w weld o 23 Hydref 2021 tan 16 Ebrill 2023.

 

David Hurn: Llun am Lun yn parhau yn 2022

Yn dilyn llwyddiant arddangosfa David Hurn: Llun am Lun yn 2017, mae’r arddangosfa newydd a agorodd yn hydref 2021 yn rhoi llwyfan i ragor o weithiau o gasgliad ffotograffau preifat David Hurn.

 

Yn 2017 rhoddodd David Hurn gasgliad mawr o ffotograffau yn rhodd i Amgueddfa Cymru. Roedd dwy ran i’r rhodd: oddeutu 1,500 o’i ffotograffau eu hun, yn rhychwantu ei yrfa drigain mlynedd fel ffotograffydd dogfennol; a rhyw 700 o ffotograffau o’i gasgliad preifat a gasglodd yn ystod ei yrfa. Mae David Hurn: Llun am Lun i’w weld o 23 Hydref 2021 tan 27 Mawrth 2022.

 

 

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn (27 Mai-29 Awst 2022)

Mae arddangosfa enwog Amgueddfa Hanes Natur, Llundain – Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn – yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o daith genedlaethol ym mis Mai 2022. Mae’r arddangosfa yn cynnwys 100 o luniau wedi eu ôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd ynghylch byd natur, drwy arddangos amrywiaeth ryfeddol ein planed – yn ogystal â bregusrwydd bywyd gwyllt. Gan ddefnyddio pŵer emosiynol ffotograffiaeth, mae’r gystadleuaeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol am eu perthynas gyda natur, ac i weithredu dros y blaned.

 

 

Dathlu 100 mlynedd o’r BBC yng Nghymru (Rhagfyr 2022-Gwanwyn 2023)

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal arddangosfa yn dathlu cyfraniad allweddol y BBC i fywydau pobl Cymru dros y ganrif ddiwethaf.

 

Bydd yr arddangosfa yn cyd-fynd â dathliadau canmlwyddiant y BBC a hefyd yn nodi 100 mlynedd o ddarlledu yng Nghymru a ddechreuodd ar 13 Chwefror 1923, gyda’r darllediad radio cyhoeddus cyntaf o Gaerdydd.
 

 

 

 

Windrush Cymru - Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes

 

  • Amgueddfa Lechi Cymru (8 Ionawr i 23 Ionawr 2022)
  • Amgueddfa Wlân Cymru (28 Ionawr i 14 Chwefror 2022)
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru (19 Chwefror i 6 Mawrth 2022)

 

Mae Windrush Cymru - Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Cewch ddysgu am hanes eu teithiau i Gymru, a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell - fel dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

 

Mae’r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.

 

 

 

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Merched Tomen yn parhau tan 1 Medi 2022.

 

 

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi sylw i fenywod oedd yn gweithio yn niwydiant glo Cymru drwy edrych ar waith menywod yn y pyllau – ar yr wyneb a dan y ddaear, ac yn ddiweddarach yn y swyddfeydd a’r canolfannau meddygol.

 

 

 

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

 

Dathlu Blaenau Gwent

Arddangosfa gymunedol yn dathlu treftadaeth Blaenau Gwent, i’w gweld yn Sain Ffagan o 2 i 25 Ebrill 2022.

 

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

 

Project y Wisg Goch (5-26 Mawrth 2022)

Mae’r project hwn gan yr artist Kirstie Macleod, yn rhoi llwyfan artistig i fenywod o bob cwr o’r byd, nifer ohonynt yn byw ar y cyrion ac mewn tlodi, i adrodd eu straeon trwy frodwaith.

 

Arddangosfa Bwyd Stryd (3 Mawrth-18 Medi 2022)

Yn ystod pandemig Covid-19, roedd bwyd wedi’i ddanfon yn lleol yn hollbwysig i bobl oedd yn methu mynd i siopa. Bu’n rhaid i fusnesau bwyd arallgyfeirio, ac roedd danfon bwyd yn help i nifer o fusnesau oroesi a ffynnu. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar hanes danfon bwyd ffres, lleol at y stepen drws - o’r siop symudol i gert y pobydd bara, a’r faniau hufen iâ cyntaf. Cewch weld cerbydau hynod oedd yn helpu pobl i wneud eu neges, a dysgu sut ydyn ni’n dychwelyd at gynnyrch lleol er mwyn lleihau gwastraff a chefnogi ein cymunedau.

 

Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Bydd yr amgueddfa yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed yn mis Mai 2022. Dewch i glywed straeon am y safle dros y blynyddoedd a hefyd sut y mae'n edrych at y dyfodol. 

 

Oriel y Parc, Sir Benfro

 

Ar Eich Stepen Drws yn agor yn Chwefror 2022

Mae’n swyddogol, mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i chi! Rydyn ni eisiau eich helpu chi i wneud y mwyaf o’ch amser tu allan drwy eich cyflwyno i rywfaint o fywyd gwyllt, daeareg ac archaeoleg Sir Benfro. Gyda chanllawiau defnyddiol gan arbenigwyr hanes a gwyddorau naturiol, ac ambell drysor o gasgliadau cenedlaethol Cymru, mae popeth yma i’ch helpu chi i ddarganfod y byd o’ch cwmpas.

 

 

100 Celf Cymru yn teithio i

 

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (30 Ebrill-23 Mehefin 2022)
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf y Gaer, Aberhonddu (9 Gorffennaf-29 Hydref 2022)
  • Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn (11 Chwefror-14 Mai 2023)

 

Mae’r arddangosfa hon yn arddangos gweithiau celf wedi’u dewis gan y cyhoedd. Bydd hoff ddarnau celf y genedl o’r casgliadau cenedlaethol yn teithio i wahanol leoliadau yng Nghymru fel rhan o broject ‘Celf ar y Cyd’.