Datganiadau i'r Wasg

Cloc Aberfan i ddod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru

Mae gwrthrych pwysig sydd yn ymwneud a thrychineb Aberfan wedi ei roi i gasgliad Amgueddfa Cymru. Bydd cloc bach a stopiodd am 9.13am, yr union amser y tarodd y domen y pentref, yn dod yn rhan o’r casgliadau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ers hynny mae’r cloc wedi bod yng ngofal Mike Flynn. Roedd ei dad, Mike Flynn (yr hynaf) yn bostman ac yn barafeddyg (gyda’r awyrfilwyr) yn y Fyddin Diriogaethol, wnaeth gynorthwyo gyda’r ymdrech achub ar 21 Hydref 1966.

Bydd y cloc nawr yn cael eu symud i ofal Amgueddfa Cymru i helpu cenhedlaethau’r dyfodol i gofio am un o drychinebau mwyaf Cymru.

Dywedodd Mike Flynn, “Dwi’n hapus iawn fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru. Hoffwn i weld y cloc ac eitemau arall tebyg yn cael eu harddangos yn barhaol yn rhywle fel Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – mae’n amgueddfa hanes Cymru a dyna’r lleoliad gorau ar gyfer y cloc.”

Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Mike am roi’r cloc i gasgliad yr Amgueddfa. Bydd hwn yn ein galluogi i adrodd hanes moment bwysig yn hanes Cymru. Ar ôl i’r cloc gyrraedd byddwn yn ei arddangos cyn gynted â phosib yn oriel Cymru... sy’n adrodd straeon Cymru drwy’r canrifoedd, a bydd ar gael i bawb i’w weld. Rydyn ni yn Sain Ffagan yn edrych ymlaen at weithio gyda Mike a chymuned Aberfan wrth baratoi i arddangos y gwrthrych pwysig hwn o hanes Cymru.”

“Rydyn ni’n gobeithio casglu llawer mwy o wrthrychau yn ymwneud a thrychineb Aberfan.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.