Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl Gaeaf Llawn Lles i roi hwb i bobl ifanc a theuluoedd yn Amgueddfeydd Cymru yn ystod yr hanner tymor!

19 -27 Chwefror 2022

Y Tywysog Llywelyn ( Mewn Cymeriad) 

Logo Gaeaf Llawn Lles

O ddawnsio clocsiau a sgiliau syrcas i weithdai creadigol a pherfformiadau anhygoel – mae llu o weithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd eu mwynhau yn saith safle Amgueddfa Cymru yn ystod Hanner Tymor mis Chwefror eleni yng Ngŵyl Gaeaf Llawn Lles!

Wrth i Gymru ddechrau adfer ar ôl effaith gymdeithasol, emosiynol a chorfforol y pandemig, mae lles plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth

Nôd yr ymgyrch Gaeaf Llawn Lles yw cefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant a phobl ifanc hyd at 25 oed -  a gydag ystod eang o weithgareddau ym mhob un o'r saith amgueddfa ledled y wlad mae rhywbeth i bawb ei fwynhau!

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymuno â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar gyfer yr Ŵyl. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae gemau Rhufeinig traddodiadol gyda Fiery Jack Entertainment yn Amgueddfa Rufeinig Cymru Caerllion, chwarae rôl drwy hanes Cymru mewn gweithdy Adeiladau a Dreigiau yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan,  a chyfle i wneud teils Lles yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe mae gweithdai gwneud Ceir Rasio ac yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru gallwch gwrdd ag arwr y bobl, Dic Penderyn – un o gymeriadau cwmni ‘Mewn Cymeriad’.  Draw yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis gallwch sgwrsio â chymeriad arall Mewn Cymeriad, sef y Tywysog Llywelyn ac yn Amgueddfa Wlân Cymru Drefach - rhowch gynnig ar ddawnsio clocsio gyda'r torrwr recordiau Tudur Phillips.

Dim ond un rhan o raglen ehangach y fenter Gaeaf LLawn Lles yw'r Ŵyl. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u datblygu gan gynnwys pecynnau celf 'Amgueddfa o Gartref' y gellir eu lawrlwytho sy'n llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol i deuluoedd a phobl ifanc, cyfleoedd lleoliad yn yr amgueddfa a phrosiectau cydweithredol.

Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:

"Mae'n bleser partneru gyda Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar fenter Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru. Mewn cydweithrediad â phobl ifanc rydym wedi datblygu rhaglen, gan gynnwys Gŵyl Lles mewn amgueddfeydd ledled Cymru dros yr hanner tymor. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl ifanc a phartneriaid sy'n gysylltiedig am eu brwdfrydedd a'u hysbrydoliaeth. Rydym yn gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn mwynhau'r gweithgareddau ac yn cael eu hysbrydoli i fod yn greadigol."

Meddai Nêst Thomas o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar fenter Gaeaf Llawn Lles. Mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd cyfleoedd arbennig i bobl ifanc ledled Cymru. Mae'r gweithgareddau hyn yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall amgueddfeydd ei chael ar fywydau pobl o ddysgu sgiliau i gefnogi lles a chael hwyl. Mae hefyd wedi dod â llawer o amgueddfeydd, grwpiau cymunedol, artistiaid ac eraill at ei gilydd yng Nghymru, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol."

Am rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o weithgareddau'r Ŵyl ewch i: 

www.amgueddfa.cymru/cymrydrhan/gaeaf-llawn-lles