Datganiadau i'r Wasg
Noson wyllt yn yr amgueddfa!
Dyddiad:
2022-05-03Ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19, bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal ei digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf.
Mae Hwyrnos: ANIFAIL yn noson allan wyllt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i oedolion yn unig a bydd ymwelwyr i’r digwyddiad yn cael golwg gyntaf ar arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn sydd ar fenthyg o'r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain. Bydd yr arddangosfa yn agor i’r cyhoedd y diwrnod canlynol ar ddydd Gwener 27 Mai 2022.
Bydd y digwyddiad yn llenwi’r amgueddfa er mwyn lansio'r arddangosfa ac i ddathlu byd natur, gan gynnwys cwis gyda Bingo Lingo, sydd wedi teithio'r DU gyda'u fersiwn unigryw o noson bingo!
Bydd yr amgueddfa yn cymysgu coctels arbennig wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid i gyd-fynd â'r digwyddiad.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sgyrsiau curadurol gan rai o arbenigwyr yr amgueddfa ac ardaloedd crefftau fydd yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ar eich stepen drws.
Meddai Ruth Oliver, Rheolwr Digwyddiadau Amgueddfa Cymru, "Ry’n ni mor gyffrous i agor drysau'r Amgueddfa eto ar gyfer digwyddiadau byw wrth i ni ail-lansio ein rhaglen Hwyrnos. Bydd y digwyddiad yn gyfle i oedolion o bob oed fwynhau'r holl bethau hwyliog ry’n ni wedi’u trefnu. Dewch i edrych ar yr arddangosfa, cwrdd â'n curaduron a dathlu harddwch a breuder byd natur."
Mae tocynnau Hwyrnos: ANIFAIL yn costio £15 ac ar gael i'w brynu nawr o www.amgueddfa.cymru/Hwyrnos
Tra bydd Hwyrnos: ANIFAIL yn lansio arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, mae'r amgueddfa wedi cyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i gefnogi'r arddangosfa a rhoi cyfle i ymwelwyr o bob oed gael eu hysbrydoli a'u diddanu yr haf hwn. Mae'r rhain yn cynnwys:
- 2 Gorffennaf 2022: Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl
Cyfle i’r cyhoedd alw draw i Ddôl Drefol yr Amgueddfa a rhoi cynnig ar greu bomiau hadau, celf a yoga.
- 28 Gorffennaf 2022: Ffilm a thaith drwy’r arddangosfa
Mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn amlygu gwirioneddau anghysurus am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y noson hon yn gyfle i weld yr arddangosfa a gwylio ffilm amgylcheddol bwerus fydd yn eich ysbrydoli.
- 4 Awst 2022: Sgwrs gyda...
Trafodaeth banel fyw a rhithiol hybrid fydd yn dathlu arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn ac yn gyfle i drafod pynciau sy’n cael eu hamlygu gan y ffotograffau, megis cynaliadwyedd, yr argyfwng hinsawdd a’r effaith ar fywyd gwyllt, byd natur a’n bywydau ni.
- 13-14 Awst 2022: Amgueddfa Dros Nos: Byd Natur Gartref
Mwynhewch noson o sbort a sbri yn yr Amgueddfa o adref, gan gynnwys cystadleuthau, coginio, crefftau a gwesteion arbennig. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Amgueddfa Dros Nos wedi gwerthu allan yn gyflym, felly bachwch y cyfle i diddanu’r plant dros yr haf!
Noddir yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hael iawn gan Gefnogwr Teithio Rheilffyrdd Cymru, Great Western Railways, a dyma’r unig amgueddfa yn y DU y tu allan i Lundain i ddangos y 100 ffotograff rhagorol wedi’u hôl-oleuo.
Cost mynediad i’r arddangosfa yw £10, gyda gostyngiadau yn £7 a mynediad am ddim i blant dan 16 ac Aelodau Amgueddfa Cymru. Am ragor o wybdoaeth ac i archebu tocynnau ir arddangosfa a’r digwyddiadau, ewch i dudalen yr arddangosfa ar ein gwefan.