Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn dathlu Wythnos Ffoaduriaid

Mae’n Wythnos Ffoaduriaid rhwng 20 a 26 Mehefin a bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid a phobl sy’n chwilio am loches yng Nghymru.

Ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin am 2 pm bydd cyfle i ymwelwyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i fwynhau perfformiad gan Oasis’ One World Choir yn y brif neuadd. Mae’r côr yn croesawu pobl sydd wedi dod i chwilio am loches yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach.

Hefyd ar ddydd Sadwrn, bydd arddangosiadau coginio yn ffermdy Llwyn-yr-eos yn Sain Ffagan drwy gydol y dydd gyda’r Syrian Dinner Project, fflach-fwyty a busnes arlwyo a sefydlwyd yn Aberystwyth gan bum menyw a ddaeth i Gymru yn 2015.

Gyda'r nos, bydd Oasis Caerdydd yn cynnal un o'u digwyddiadau 'Clwb Swper' poblogaidd yn Sain Ffagan. Datblygwyd y fwydlen ac elfennau gweledol y noson mewn cyfres o weithdai creadigol gyda thîm cegin Oasis, ceiswyr lloches, a ffoaduriaid sy'n byw yn Aberystwyth a Chaerdydd.

Dywedodd Reynette Roberts, Pennaeth Oasis Caerdydd:

“I Oasis Cardiff a’n project Plate mae bwyd yn pontio’r bwlch rhwng pobl o ddiwylliannau gwahanol drwy ganfod tir cyffredin. Mae Oasis Cardiff wedi gweithio gydag Amgueddfa Cymru am dros 10 mlynedd ac yn edrych ymlaen yn fawr at y project hwn sy’n dod â bwyd a’i draddodiadau a hanes a diwylliant Cymru ynghyd.”

Mae arddangosfa Un Byd: Celf o Wersyll Penalun i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 26 Mehefin ac yn cynnwys celf gan grŵp o ddynion ifanc sydd wedi’u cartrefu gan y Swyddfa Gartref yng nghyn farics milwrol Penalun yn Sir Benfro.

Bydd arddangosfa Adref Oddi Cartref yn dathlu y bobl a’r sefydliadau sydd wedi ymwneud ag Abertawe Dinas Noddfa am dros ddeng mlynedd. Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – Amgueddfa Noddfa gyntaf y DU – yn rhoi llwyfan i straeon y bobl sydd wedi cael lloches yn Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn rhan o bartneriaeth Ffoaduriaid Cymru (2019-23) gyda Phrifysgol Caerdydd, dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Fel rhan o broject Ffoaduriaid Cymru cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd gyfweliadau hanes llafar i gofnodi profiadau ffoaduriaid Tamil o Sri Lanka a Syriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru:

“Fe fydd yr hanesion llafar a gasglwyd fel rhan o broject Ffoaduriaid Cymru yn dod yn rhan o’r casgliad cenedlaethol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r cyfranwyr am rannu eu profiadau gyda ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae eu straeon yn rhan o hanes Cymru, ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu clywed a'u deall".

 

DIWEDD

 

Mae’r digwyddiad yn rhan o broject Ffoaduriaid Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae project The Plate gan dîm cegin Oasis wedi’i gefnogi gan Sefydliad Garfield Weston a Chronfa Gymuned y Loteri Genedlaethol.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.