Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl Haf o Hwyl ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd yn Amgueddfeydd Cymru yn ystod gwyliau’r haf!

O ddawnsio clocsiau a gemau traddodiadol i weithdai creadigol a pherfformiadau anhygoel – mae llu o weithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd eu mwynhau yn saith safle Amgueddfa Cymru yn ystod gwyliau’r haf eleni yng Ngŵyl Haf o Hwyl!

Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn

Mae’r ymgyrch Haf o Hwyl, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu gofodau diogel i gefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant a phobl ifanc hyd at 25 oed - a gydag ystod eang o weithgareddau ym mhob un o'r saith amgueddfa ledled y wlad mae rhywbeth i bawb ei fwynhau!

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymuno â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar gyfer yr Ŵyl. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae dysgu am fywyd Rhufeinig yn Amgueddfa Rufeinig Cymru Caerllion, gweithdai chwarae clai yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, a chyfle i wneud teils Lles yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe mae gweithdai gwneud Ceir Rasio ac yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru gallwch gymryd rhan mewn gemau hanesyddol gyda Fiery Jack Entertainment!  Draw yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis gallwch weld actorion preswyl ac yn Amgueddfa Wlân Cymru Drefach - rhowch gynnig ar ddawnsio clocsio gyda'r torrwr recordiau Tudur Phillips.

Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:

"Mae'n bleser partneru gyda Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar fenter Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu rhaglen mewn cydweithrediad â phobl ifanc. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl ifanc a phartneriaid sy'n gysylltiedig am eu brwdfrydedd a'u hysbrydoliaeth. Rydym yn gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn mwynhau'r gweithgareddau ac yn cael eu hysbrydoli i fod yn greadigol."

Meddai Nêst Thomas o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar fenter Haf o Hwyl. Mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd cyfleoedd arbennig i bobl ifanc ledled Cymru. Mae'r gweithgareddau hyn yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall amgueddfeydd ei chael ar fywydau pobl o ddysgu sgiliau i gefnogi lles a chael hwyl. Mae hefyd wedi dod â llawer o amgueddfeydd, grwpiau cymunedol, artistiaid ac eraill at ei gilydd yng Nghymru, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol."

Mae’r holl weithgareddau AM DDIM. 

Am rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o weithgareddau'r Ŵyl ewch i: Haf o Hwyl 2022 | Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru.

Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. Rydym yn croesawu pawb o bob cymuned am ddim, diolch i nawdd Llywodraeth Cymru. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. www.amgueddfa.cymru  

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:   cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk