Datganiadau i'r Wasg

Marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines

A ninnau’n un o sefydliadau cenedlaethol Cymru sydd â Siarter Frenhinol, anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at y teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.


Fel arwydd o barch, rydym wedi gostwng ein baneri. Byddwn yn cofio ymweliadau Ei Mawrhydi â’n hamgueddfeydd dros y blynyddoedd yn gynnes. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yma.