Datganiadau i'r Wasg

Llywydd Dros Dro Amgueddfa Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Is-lywydd yr Amgueddfa, Dr Carol Bell, yw Llywydd Dros Dro Amgueddfa Cymru ers 1 Ionawr eleni. Mae hyn yn sgil penderfyniad Mr Roger Lewis i roi’r gorau i’w rôl ar ddiwedd Rhagfyr 2022 er mwyn ymgymryd â nifer o rolau a phrojectau cyhoeddus eraill. 

Maes o law, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal proses i recriwtio i swyddi parhaol newydd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, gan y bydd tymor Dr Bell yn dod i ben ar 30 Medi 2023.

O dan arweiniad Dr Bell, blaenoriaethau cyntaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r Uwch Dîm Gweithredol fydd rhoi Strategaeth 2030 newydd yr Amgueddfa ar waith a gwireddu ei hymrwymiadau yn rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. 

Datganiad gan Dr Carol Bell: 

“Mae blwyddyn gyffrous o flaen Amgueddfa Cymru. Byddwn yn canolbwyntio ar roi ein strategaeth newydd ar waith ac yn parhau â mentrau pwysig newydd sy’n rhan amlwg o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn enwedig Amgueddfa’r Gogledd. Mae’n bleser gen i lywio’r corff, hyd yn oed am gyfnod byr, ar adeg o newidiadau a chyfleoedd mawr i’r Amgueddfa.”

 

DIWEDD