Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael set o brintiau o Ogledd Cymru

Codi'r Llen ar Gaffael yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae set o brintiau sydd newydd eu caffael gan yr artist Prydeinig Chris Ofili yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn rhan o arddangosfa ⁠Rheolau Celf? .

Cafodd y grŵp o 10 ysgythriad ar bapur o leoliadau yng ngogledd Cymru ei gaffael gan Amgueddfa Cymru yn 2021. Roedd hyn yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Sefydliad Ampersand ac Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Astudiodd Ofili yn Ysgol Gelf Chelsea a'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain gan ddod yn artist amlwg yn y 1990au. Ym 1996, ymwelodd â gogledd Cymru gan ddewis lleoliadau o fewn awr i Lanbedr yn ne Gwynedd.

Yn yr arddangosiad newydd hwn, bydd tirluniau Cymreig eraill o gasgliad yr Amgueddfa yn ategu gweithiau Ofili,yn ogystal â gweithiau ar fenthyg gan artistiaid Cymreig sy'n dod i'r amlwg, gan roi cyfle unigryw i edrych o'r newydd ar Gymru. 

O brint ffotograffig Richard Long o Gerrig Eryri i ddyfrlliw Barbara Bodichon Golygfa o fy ystafell wely, Maentwrog, Eryri a thirlun Cymreig George Poole Y Cariadon, mae digonedd i'n hymwelwyr fwynhau. Bydd caffaeliad newydd arall, llwybrau'r gorffennol gan Sean Edwards, hefyd yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa am y tro cyntaf.

Nid curaduron amgueddfa a ddewisodd y gweithiau hyn, ond grŵp o 9 cyfrannwr yn bobl ifanc ac artistiaid rhwng 18 a 25 oed, sef Grŵp Codi'r Llen ar Gaffael yr Amgueddfa. Sefydlwyd y grŵp ym mis Mai 2021, a gweithiwyd gyda'r curaduron celf gyfoes i edrych ar gaffael celf ar draws yr Amgueddfa, trafod cwestiynau am y gweithiau celf newydd arfaethedig a dod i benderfyniadau ar y cyd.⁠

Noddwyd y project Codi'r Llen ar Gaffael gyda chymorth gan grantiau Tynnu’r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri a grantiau Reimagine y Gronfa Gelf. 

The Demystifying Acquisitions project was funded with support from the National Lottery Heritage Fund’s Kick The Dust grants and Art Fund’s Reimagine grants.

 

Meddai Rhyann Arthur o'r grŵp,⁠ "Mae Codi'r Llen ar Gaffael gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn profi i fod yn broject gwerthfawr i bobl ifanc sy'n dechrau ym myd sefydliadau celf, gan roi cipolwg cynhwysol iawn i'r wybodaeth a'r prosesau tu ôl i'r llenni. ⁠Yn achos caffael cyfres gogledd Cymru Ofili, mae'r cyfle'n fwy arwyddocaol fyth am y bydd y project byw yn ychwanegiad ystyrlon at gasgliad celf yr Amgueddfa, ac yn cynrychioli Cymru fel lle sy'n ysbrydoli artistiaid cyfoes, yn yr un modd ag yr oedd yn ysbrydoli Turner a Lowry a'u cyfoedion."

⁠Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru, "Rydyn ni'n ymroddedig at weithio mewn modd mwy agored a democrataidd trwy wrando ar leisiau newydd a gweld safbwyntiau newydd. Mae'r project hwn wedi rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o artistiaid a phobl greadigol yng Nghymru gael at bob cam o'r broses guradurol. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi creu rhywbeth arbennig iawn. 

“Mae'r gwaith hwn gan Chris Ofili yn ychwanegiad gwych at ein casgliadau ac yn gysurus ochr yn ochr â gweithiau artistiaid tirlun eraill fel Richard Wilson, Thomas Jones, Graham Sutherland a Clare Woods wrth adrodd hanes dwy ganrif o baentio tirluniau yng Nghymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.  

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru  

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk

Dilynwch y saith aelod o deulu Amgueddfa Cymru ar Twitter, Instagram a Facebook.