Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn penodi Prif Weithredwr newydd

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi fod Jane Richardson wedi ei phenodi’n Brif Weithredwr. Bydd Jane yn dechrau yn y swydd ar 11 Medi, yn rhan amser yn gyntaf, cyn dechrau’r swydd yn llawn amser ym mis Tachwedd 2023. 

Mae Jane wedi bod yn Gadeirydd Cadw ers 2019, gan gefnogi’r sefydliad drwy’r pandemig a’r broses o adfer ar ôl Covid. Tan yn gynharach eleni, roedd hi’n Gyfarwyddwr Economi a Lle yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn arwain ar brojectau seilwaith mawr fel creu canolfan ddiwylliant newydd yn nhref hanesyddol Conwy. 

Mae gan Jane, sy’n byw yn Llandudno gyda’i gŵr a’i dau o blant, dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru. Fel Cyfarwyddwr yn Croeso Cymru, arweiniodd ar ddatblygu cynnyrch twristiaeth a goruchwylio buddsoddiadau sylweddol mewn atyniadau newydd fel Zip World a’r Bathdy Brenhinol. Cyn hynny, bu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddeng mlynedd yn rheoli eiddo hanesyddol ac arwain ar brofiad ymwelwyr ledled Cymru. 

Yn y rôl newydd hon yn Amgueddfa Cymru, bydd y Prif Weithredwr yn adrodd i’r Cadeirydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bydd yn gyfrifol am gynnig ysbrydoliaeth, uchelgais, creadigrwydd ac arweiniad strategol i’r sefydliad. ⁠Bydd cyflawni Strategaeth 2030 yn ganolbwynt, gan sicrhau bod y teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau yn diwallu anghenion amrywiol cymunedau Cymru, yn ogystal â hyrwyddo ein hanes a’n diwylliant i ymwelwyr a chynulleidfaoedd rhyngwladol. 

Ar ôl ei phenodi, dywedodd Jane Richardson:

“Mae’n fraint cael cymryd y rôl hon ar adeg bwysig i Amgueddfa Cymru ac i sector diwylliannol ehangach Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd a’r tîm i sicrhau ein bod yn dod â’n casgliadau’n fyw mewn ffyrdd sy’n adrodd straeon holl gymunedau Cymru.”

Mae’r penodiad yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Cadeirydd newydd, Kate Eden, a’r Is-gadeirydd newydd, Rhys Evans, a fydd hefyd yn ymuno â’r sefydliad ym mis Medi a mis Hydref yn eu tro. 

Dywedodd y Llywydd dros dro, Carol Bell: 

“Dyma ddechrau cyfnod newydd i Amgueddfa Cymru, ac rydw i a Kate Eden yn falch iawn o groesawu Jane fel ein Prif Weithredwr cyntaf. Bydd ei sgiliau strategol a’i dawn fel arweinydd, sy’n amlwg o’i phrofiad, yn amhrisiadwy mewn cyfnod o newid mawr a fydd yn llawn heriau a chyfleoedd o fewn a thu hwnt i waliau ein hamgueddfeydd. 

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni Strategaeth 2030 ar gyfer cymunedau ledled Cymru a’n hymwelwyr o’r tu allan i Gymru.”

Bydd y Prif Weithredwr hefyd yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu, gan weithio’n agos â thîm nawdd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dawn Bowden MS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Hoffwn longyfarch Jane ar ei phenodiad yn Brif Weithredwr Amgueddfa Cymru. Mae’r Amgueddfa yn un o’n prif sefydliadau cenedlaethol ac mae ar drothwy cyfnod newydd cyffrous.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Jane a Chadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru wrth i ni gryfhau ac adeiladu ar y gwaith arbennig sydd eisoes yn cael ei wneud gan yr Amgueddfa i ysbrydoli ac addysgu pobl ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch hefyd i Jane am ei gwaith yn llywio Bwrdd Cadw, yn Gadeirydd ers ei sefydlu yn 2019.