Datganiadau i'r Wasg

Mae HWYRNOS yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2024

Dathlu celf, diwylliant a chymuned

Bydd y digwyddiad poblogaidd i oedolion yn unig yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 9 Chwefror, o 7pm i 11.30pm. Bydd y noson yn dathlu celf gyfoes ac arddangosfa Artes Mundi 10 gan hudo'r gynulleidfa â chymysgedd o gerddoriaeth, gweithgareddau, celf gyfoes, perfformiadau a bwyd blasus. 

Cyn i'r noson ddechrau, bydd Sgwrs gyda: Mujib Yahaya, Shirish Kulkarni ac Ogechi Dimeke (Artes Mundi 10) yn cael ei chynnal am 6pm. ⁠ 

Mae HWYRNOS wedi cydweithio ag Artes Mundi i roi cyfle arbennig i grwydro prif neuadd ac orielau'r Amgueddfa, a rhoi llwyfan i greadigrwydd a thalent Caerdydd. Y nod yw meithrin cysylltiadau ac annog pobol i fyfyrio ar leisiau artistig gwahanol, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gaerdydd fel dinas noddfa. Bydd y noson yn rhoi llwyfan i artistiaid a phobl greadigol sydd wedi gwneud eu cartref yng Nghaerdydd.⁠

Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd perfformiad gan Oasis One World Choir, danteithion blasus yng Nghegin Falafel Global Eats gyda Oasis Catering Team, cyfle i grwydro Arddangosfa Artes Mundi 10 ac i fwynhau Gweithdai a Gweithgareddau Creadigol.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu am fenter gyffrous Celf ar y Cyd, rhan o'r gwaith o greu Amgueddfa Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, a chwrdd â'r tîm. 

Bydd y Brif Neuadd yn cael ei gweddnewid yn hafan atmosfferig. Dewch i fwynhau dawns, cerddoriaeth fyw, a setiau DJ gan ddoniau creadigol Caerdydd. Yn cloi'r noson fydd set gan Raven007, gan gymysgu cerddoriaeth house, ballroom, a techno yn un don o sain, dawns, a mynegiant.  ⁠

Mae tocynnau HWYRNOS yn £12 ac ar gael i'w prynu o https://museum.wales/cardiff/whatson/12139/LATES-AM10/

Ymunwch â ni am sgwrs arbennig am 6pm yn edrych ar Gaerdydd fel Dinas Noddfa a sut bod hynny'n arwain at gyfraniadau anhygoel i'n diwylliant a'n cymdeithas. Bydd y sgwrs yn cael ei harwain gan Natasha Gauthier.

Mae tâl ychwanegol am y digwyddiad hwn, a rhaid prynu tocyn ar-lein ymlaen llaw. 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.

www.amgueddfa.cymru  

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Mae HWYRNOS yn un o'n prif ddigwyddiadau, sy'n casglu celf a diwylliant ynghyd, creu cymuned, a chynnig llwyfan i leisiau ac arddulliau amrywiol. Mae'n noson llawn creadigrwydd a chysylltiadau, sy'n dod â'r ddinas yn fyw i gyfeiliant bwrlwm celf gyfoes.

Artes Mundi yw prif sefydliad y celfyddydau gweledol rhyngwladol yng Nghymru, yn canolbwyntio ar gydnabod a chefnogi artistiaid sy'n trafod realiti cymdeithasol a phrofiad bywyd. Mae Artes Mundi 10 yn dathlu dwy ddegawd o lwyfannu celf weddnewidiol sy'n codi cwestiynau.

Fel rhan o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, mae gwefan Celf ar y Cyd yn gwneud casgliad celf gyfoes y genedl yn Amgueddfa Cymru yn haws i'w weld nad erioed o'r blaen. Cymerwch olwg ar y wefan newydd sbon, lle cewch ddysgu a chael eich ysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol.

 

Am ymholiadau'r cyfryngau cysylltwch â:

Laura Osborne

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

(029) 2057 3211   

laura.osborne@amgueddfacymru.ac.uk