Datganiadau i'r Wasg

Paul Loveluck (1942-2024)

Teyrnged i gyn-lywydd Amgueddfa Cymru wrth ein Cadeirydd, Kate Eden

Roedd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn drist i glywed y newyddion am farwolaeth Paul Loveluck. Roedd Paul yn Llywydd ar Amgueddfa Cymru o 2002-2011.

 

Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd, bu Paul yn goruchwylio rhai newidiadau mawr o fewn Amgueddfa Cymru, gan gynnwys agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 2005. Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd, cynhaliodd Amgueddfa Cymru raglen gyffrous o arddangosfeydd gydag amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru, yn ogystal â thaith lwyddiannus o gasgliad y chwiorydd Davies yn Unol Daleithiau America.

 

Ar ran Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru, rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Paul.