Datganiadau i'r Wasg

Dathlu ymgyrch menywod dros heddwch byd-eang mewn arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn taflu goleuni ar straeon menywod Cymru a ymgyrchodd dros ddyfodol di-ryfel. 

Mae Hawlio Heddwch yn agor i’r cyhoedd ar 9 Mawrth 2024 ac yn adrodd hanes gweithredu gan fenywod Cymru. 

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd bron i 400,000 o fenywod yng Nghymru ddeiseb heddwch a’i chyflwyno i fenywod Unol Daleithiau America.

Roedd y ddeiseb tua saith milltir o hyd a chafodd ei chyflwyno i fenywod America ym 1923 gan Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys, a Gladys Thomas. Ganrif yn ddiweddarach, cafodd Deiseb Heddwch y Menywod a’r gist eu hailddarganfod a’u rhoi yn ôl i Gymru.

 

Mae’r ddeiseb a’r gist, sydd ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ymysg y prif eitemau yn yr arddangosfa hon.

 

Hefyd yn cael eu harddangos mae baneri protest eiconig o wersyll heddwch Comin Greenham yn y 1980au, sy’n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. 

 

Roedd gwersyll heddwch Comin Greenham yn gyfres o wersylloedd protest a gafodd eu codi i brotestio yn erbyn arfau niwclear yn safle’r Llu Awyr yng Nghomin Greenham yn Berkshire. Gadawodd y grŵp protest Cymreig, Menywod dros Fywyd ar y Ddaear, Gaerdydd ar 27 Awst 1981 i orymdeithio i Gomin Greenham. 

 

Dywedodd Mared McAleavey, Prif Guradur: Ystafelloedd Hanesyddol Amgueddfa Cymru: 

 

“Mae Amgueddfa Cymru yn falch o fod yn un o’r lleoliadau sy’n arddangos y Ddeiseb Heddwch fel rhan o Bartneriaeth Hawlio Heddwch. Mae hanes y Ddeiseb, ynghyd ag ymgyrch Comin Greenham, ryw chwe deg mlynedd yn ddiweddarach, yn taflu goleuni ar y rôl sylweddol oedd gan fenywod Cymru yn y mudiad heddwch rhyngwladol.”

 

“Diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth sy’n ein galluogi i greu arddangosfeydd sy’n dweud stori pobl Cymru.” 

 

Dywedodd Laura Chow, Pennaeth Elusennau People’s Postcode Lottery:

 

“Rydw i wrth fy modd fod ein chwaraewyr yn cefnogi’r arddangosfa Hawlio Heddwch. Mae’r cyfle hwn yn ein caniatáu i ddysgu, dathlu a chael ein hysbrydoli gan arwriaeth menywod Cymru a dreuliodd eu bywydau yn gwarchod yr heddwch a’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Bartneriaeth Hawlio Heddwch a bydd ar agor rhwng 9 Mawrth a 15 Medi 2024. Mynediad am ddim. 

 

DIWEDD

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.  

 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.

  

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu

www.amgueddfa.cymru