Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae CELF, yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, yn herio'r sector ddiwylliannol i edrych ar ffyrdd newydd o gynyddu proffil a mynediad at gelf gyfoes yng Nghymru.
Partneriaid CELF
Diolch i gydweithio Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor y Celfyddydau mae CELF yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith unigryw o orielau, gyda'r nod o weddnewid y tirlun diwylliannol drwy fynd â'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i gymunedau ar draws Cymru.
Drwy adeiladu ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, bydd CELF yn galluogi cymunedau Cymru i fwynhau mwy o'u casgliad cenedlaethol, gan dynnu ar gasgliadau cyfoes Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thrwy gomisiynu gwaith gan artistiaid modern.
Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru a gwaith hwyluso Cyngor y Celfyddydau, dros y 18 mis diwethaf mae CELF wedi sicrhau buddsoddiadau sylweddol yn isadeiledd presennol y naw oriel bartner, gan eu helpu i gynyddu mynediad at weithiau yn y casgliad cenedlaethol a gweithgareddau cysylltiedig i'r cyhoedd. Mae'r orielau yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Glynn Vivian yn Abertawe, oriel Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, Oriel Davies yn y Drenewydd, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefftau Rhuthun a Storiel ym Mangor.
Dywedodd Cadeirydd Annibynnol CELF, Mandy Williams Davies:“Mae gan Gymru dreftadaeth gelfyddydol gyfoethog ac unigryw. Gall celf gyfoes ein helpu i fynd i'r afael â chwestiynau mawr am ein hunaniaeth fel cenedl, beth sy'n bwysig i ni ac i ble ydyn ni'n mynd.
Bydd gweithiau celf gyfoes o'r casgliad cenedlaethol yn cael eu benthyg a'u harddangos ar draws y rhwydwaith hwn, ac mae gweithiau comisiwn a gweithgareddau allestyn yn barod wedi ymgysylltu â chymunedau lleol a chenedlaethol. Drwy weddnewid y mynediad at gelf gyfoes ar draws Cymru, nod CELF yw gwneud celf gyfoes yn rhan amlycach o fywyd a lles bob dydd."
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gweithgareddau ac arddangosfeydd CELF wedi cael eu cynnal ar draws Cymru, fel project gwobrwyog Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac arddangosfa Carreg Ateb: Vision or Dream? yn Mostyn, Llandudno. Fis Medi diwethaf daeth artistiaid, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i ddilyn llwybr drwy ganol Aberteifi o weithiau crefft comisiwn ac i ddathlu a dehongli gwrthrychau o'r casgliad cenedlaethol mewn ffordd ddynamig, newydd.
Dywedodd Ffion Rhys o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o'r orielau partner: "Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o fenter CELF, syn ein galluogi ni i ddod â'r casgliad celf gyfoes cenedlaethol yn agosach at ein cynulleidfaoedd. Dylai'r celfyddydau fod yn agored i bawb, a gwireddu'r freuddwyd honno yw nod CELF.
“Diolch i'r nawdd, rydyn ni wedi uwchraddio ein systemau awyru a goleuo er mwyn creu hinsawdd addas i arddangos gweithiau pwysig, ac rydyn ni wedi ehangu'r tîm addysg ac allestyn i gysylltu â chymunedau newydd.
“Fel oriel heb gasgliad ein hunain, mae'r gronfa gomisiynu wedi bod yn newid byd, gan roi cyfle i ni gefnogi artistiaid o Gymru i greu gwaith newydd. Cafodd ein harddangosfa gyntaf fel rhan o CELF – Teulu – ei churadu ar y cyd â theuluoedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r gynulleidfa honno. Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib."
Diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae CELF hefyd wedi hwyluso project mawr sydd erbyn hyn wedi digideiddio dros 30,000 o weithiau o gasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Drwy hyn bydd gwefan CELF yn rhoi cyfle i'r cyhoedd bori drwy filoedd o weithiau gan fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli.
Esboniodd Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru, Ceri Jones: "Bydd y platfform digidol yn rhoi cip i bobl tu ôl i'r llenni ac yn esbonio mwy am y gweithiau celf, yr artistiaid, a'r straeon a'r llefydd wnaeth eu hysbrydoli. “Gallwn ni roi cyfle i artistiaid comisiwn esbonio mwy, fel Angharad Pearce Jones a Geraint Ross Evans. Bydd lle hefyd i weithiau comisiwn gan bartneriaid CELF – fel y project gyda Bardd Plant Cymru wnaeth roi cyfle i blant ysgol o Gwm Rhondda i Langefni greu barddoniaeth yn ymateb i weithiau yn y casgliad gan artistiaid fel Mike Perry, Caroline Walker a Donald Rodney."
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:"Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model unigryw hwn yn galluogi pobl i fwynhau'r casgliad yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y platfform digidol newydd hefyd yn sicrhau y gall mwy o bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt gael mynediad at y casgliad cenedlaethol unrhyw bryd, unrhyw le, mewn unrhyw fodd.
“Rydyn ni'n llwyr gefnogi gweledigaeth CELF i feithrin perthynas a chyfleon newydd gyda'r gymuned gelf weledol, gan sicrhau bod celf gyfoes yn dod yn rhan gryfach o iechyd a lles ein cymunedau."
Am ragor o wybodaeth am CELF a'r rhaglen ddigwyddiadau, ewch i celfarycyd.cymru.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:communications@museumwales.ac.uk Gwefan CELF:
Hafan | Celf ar y Cyd
Homepage | Celf ar y Cyd
Lluniau
Mae lluniau ar gael i lawrlwytho yma – https://we.tl/t-ciflu5TX9v
Defnyddiwch y credydau canlynol:
• Teulu. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ffotograffiaeth gan Emma Goldsmith• Angharad Pearce Jones, Di-deitl © Angharad Pearce Jones/Canolfan Grefft Rhuthun. Ffotograffiaeth gan Dewi Tannatt Lloyd Comisiwn CELF Canolfan Grefft Rhuthun, 2025• Nikhil Chopra, From Land to Fire © Nikhil Chopra/Oriel Gelf Glynn Vivian. Ffotograffiaeth gan Polly Thomas. Comisiwn CELF Oriel Gelf Glynn Vivian, 2025 Arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain• Hannah Walters, Mab © Hannah Walters/Oriel Myrddin. Ffotograffiaeth gan Heather Birnie Comisiwn CELF Oriel Myrddin, 2024• Shani Rhys James a Stephen West: Gofod Mewnol Storiel. Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, Amgueddfa Cymru• Mike Perry, Diwedd Onnen, Ffynnonofi, Sir Benfro, Cymru. © Mike Perry/Amgueddfa Cymru Casgliad Amgueddfa Cymru• Caroline Walker, Cyflyrru © Caroline Walker/Amgueddfa Cymru. Casgliad Amgueddfa Cymru• Joshua Donkor, Eric Ngalle Charles © Joshua Donkor/Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru• Natalia Dias, Blodeuwedd © Natalia Dias / Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru
CELFMae datblygiad oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru yn ffordd newydd o gynyddu proffil a mynediad at gelf gyfoes yng Nghymru, er mwyn sicrhau y gall pobl ar draws Cymru, a thu hwnt, gael mynediad at gelf gyfoes Gymreig yn lleol ac yn ddigidol.
Adeiladwyd y model gwasgaredig, unigryw ar y cyd, ac mae'n cynnwys 11 o orielau amrywiol ar draws Cymru, platfform digidol, a sefydliadau partner cenedlaethol fydd yn cysylltu cymunedau ac artistiaid â'n casgliad cenedlaethol.Bydd y fenter greadigol genedlaethol hon yn weithgar yn lleol ac yn eirioli'n rhyngwladol, gan roi llwyfan i ddylanwad ac uchelgais artistig y genedl, a chynnig cyfleon i:• Wneud mynediad i'r casgliadau cenedlaethol yn haws i bawb• Cefnogi artistiaid ifanc a newydd o bob oed• Cynyddu addysg ac ymgysylltu, yn enwedig ymysg pobl ifanc• Buddsoddi a helpu gyda datblygu cyfalaf orielau presennol• Codi proffil cenedlaethol a rhyngwladolPartneriaid ac Orielau CELFMae CELF yn fenter gydweithredol rhwng deuddeg partner ar draws Cymru, wedi'i gefnogi gan y casgliad cenedlaethol sydd yng ngofal Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae CELF yn cael ei gyflwyno gan:• Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth • Amgueddfa Cymru• Cyngor Celfyddydau Cymru• Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe • MOSTYN, Llandudno• Llyfrgell Genedlaethol Cymru• Amgueddfa ac Oriel gelf Casnewydd• Oriel Davies, y Drenewydd• Oriel Myrddin, Caerfyrddin• Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli• Canolfan Grefftau Rhuthun • STORIEL, Bangor
Rhestr o arddangosfeydd wedi’i cefnogi gan CELF
Plas Glyn-y-Weddw
Gosodwaith digidol gan Bedwyr Williams Y Tyrrau Mawr
Gorffennaf – Medi 2024
Oriel Myrddin
OM x Gŵyl Grefftau Cymru:
llwybr crefftau o waith comisiwn newydd
30 Awst – 20 Medi 2024
STORIEL
Cwpwrdd Hynodion:
Gweithiau comisiwn newydd
Mai – Hydref 2024
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
CYFOES: Celf Cymru Heddiw | Contemporary Welsh Art
28 Hydref 2023 – Mawrth 2024
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Casgliadau Newydd: Go Home Polish gan Michal Iwanowski
Chwefror – Medi 2024
Cadwch i'r Chwith a Anorffenedig... gweithiau comisiwn ar gyfer arddangosfa Y Cymoedd
Mai 2024 – 6 Ionawr 2025
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Teulu project ac arddangosfa – enwebwyd ar gyfer gwobr Family Arts
2 Mawrth – 23 Mehefin 2024
Canolfan Grefftau Rhuthun
Ivor Davies yn 90, sioe unigol
David Nash
Hydref 2025
Hydref 2025 - Gwanwyn 2026
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Tyrrau Mawr, Bedwyr Williams
Hydref 2024 – Ionawr 2025
Oriel Mostyn
Owain Train McGilvary a Dylan Huw: Fel gwacter
sgrinio gwaith comisiwn CELF
5 Hydref – 25 Ionawr 2025
Arddangosfa gerameg: Casgliad Besson
5 Ebrill – 15 Mehefin 2025
Shani Rhys James a Stephen West
GOFOD MEWNOL
12 Ebrill – 28 Mehefin 2025
Iwan Bala
Hydref – Rhagfyr 2025
Oriel Gelf Glynn Vivian
Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain
24 Mai – 2 Tachwedd 2025
Casgliad P&O Makower wedi'i guradu gan Greg Parsons: Lansiad comisiwn arianwaith diweddaraf P&O Makower Amgueddfa Cymru 2024 gan William Romeril – Gêm Frenhinol Urm
Gwanwyn 2026 – Haf 2026
Graham Sutherland a Thirlun Cymru
Hydref 2026– Ionawr 2027
Oriel Davies
Mae Popeth yn Newid / Mae Popeth yr un Peth
Ffotograffiaeth: Casgliad Geoff Charles a John Thomas; gwaith comisiwn gan Mohamed Hassan
26 Ebrill – 9 Awst 2025
Gwrach | Witch : A Fairy Tale Retold gan yr artist Clive Hicks-Jenkins, gan gynnwys gwaith comisiwn CELF
Celwyddgi Celwyddgi, gan Anthony Shapland
(sioe unigol wedi'i hategu gan fenthyciad CELF)
Mawrth – Mehefin 2025
Mostyn
Carreg Ateb: Vision or Dream?
Rhan o broject Triumph of Art y National Gallery
21 Mehefin – 27 Medi 2025