Datganiadau i'r Wasg

Ffasiwn, arddangosfa ffotograffiaeth newydd yn dathlu degawd o greadigrwydd yng nghymoedd de Cymru

Arddangosfa ffotograffiaeth newydd gan Clémentine Schneidermann a Charlotte James yn dathlu degawd o greadigrwydd yng nghymoedd de Cymru.

Ffasiwn yw e

© Clémentine Schneidermann a Charlotte James

Bydd Ffasiwn yn cyflwyno gwaith y ffotograffydd Ffrengig Clémentine Schneidermann a'r cyfarwyddwr creadigol o Ferthyr, Charlotte James ac yn dathlu deng mlynedd o It's Called Ffasiwn, sef project ffotograffiaeth, ffasiwn a chreadigrwydd â'i wreiddiau yn y gymuned.

Gan weithio yn enw'r stiwdio, Bleak Fabulous, mae'r ffotograffwyr yn creu gwaith sy'n creu cysylltiadau gyda'r gymuned a phroject ⁠sy'n fwy na ffotograffiaeth – mae'n gywaith creadigol hirdymor gyda phobl ifanc Blaenau Gwent a Merthyr Tudful. Ers 2015 maent wedi bod yn gweithio gyda'r un cydweithwyr i gyd-greu ffotograffau sy'n eistedd ar ymylon ffotograffiaeth ddogfennol, portreadau, ffasiwn a pherfformiad. Mae'r lluniau'n ceisio ail-ddychmygu’r hyn rydyn ni’n ei dybio am yr ardal trwy ganolbwyntio ar ddychymyg a chreadigrwydd cenedlaethau'r dyfodol.

Dyddwedodd Clémentine Schneidermann, Ffotograffydd:

"Mae’n beth arbennig i ni weld ein prosiect yn cael ei ddathlu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle ddechreuodd prosiect llawr gwlad a datblygu mewn i gydweithrediad anhygoel. Wrth i’r prosiect ddathlu degawd, rydym yn hynod o hapus i arddangos y gwaith yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf yng Nghymru gan gynnwys bron i chwe deg print, ffilmiau a chyhoeddiadau."

Mae’r arddangosfa yn olrhain esblygiad project It's Called Ffasiwn dros y degawd ddiwethaf, o'r gweithiau cynnar o gyfnod preswyl Clémentine yn Abertyleri i'r gweithiau mwy diweddar. Mae'n cynnwys dwy ffilm gafodd eu creu gyda'r bobl ifanc, ac mae un ohonynt yn cynnwys lluniau tu ôl i lenni'r project. Mae'r ffilmiau'n cael eu cyflwyno mewn clwb gweithiol i fenywod a grëwyd gan Clémentine a Charlotte ac yn cynnig cipolwg swrreal ar y tirweddau bob dydd sydd wedi ysbrydoli'r lluniau.

Cyn pob sesiwn ffotograffau cynhaliodd Clémentine a Charlotte weithdai creadigol, gan roi cyfleoedd i'r cydweithwyr ifanc addasu eu dillad a dysgu sgiliau fel gwnïo, ffotograffiaeth, steilio a dylunio set.

Roedd gweithio gyda'r cymunedau yn y cymoedd yn arbennig o bwysig i Charlotte gan fod ei magwraeth ym Merthyr Tudful yn rhan annatod o'i gwaith. Mae hi'n cynnwys teulu, ffrindiau a phobl leol wrth iddi archwilio gwahanol ffyrdd o gydweithio trwy weithdai ffasiwn, ffilm a chreadigol.

Nid dyma'r tro cyntaf i waith Bleak Fabulous gael ei ddangos yn yr Amgueddfa. Mae eu ffotograffau wedi ymddangos mewn arddangosfeydd gan gynnwys, Y Cymoedd (2024), ⁠Rheolau Celf? (2021) a Menywod a Ffotograffiaeth (2019).

Yn dilyn llwyddiant arddangosfa Y Cymoedd yn 2024, mae Ffasiwn yn parhau ag ymrwymiad Amgueddfa Cymru i dynnu sylw at straeon sy'n canolbwyntio ar y gymuned a ffotograffiaeth gyfoes Gymreig.

Meddai'r curadur Bronwen Colquhoun:

"Rydyn ni wrth ein bodd i gyflwyno arddangosfa Ffasiwn yn oriel ffotograffiaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae ffotograffau o'r project wedi cael eu cynnwys yn ein harddangosfeydd o'r blaen ond dyma gyfle i olrhain esblygiad y gwaith dros ddeng mlynedd; i ddangos ffotograffau sydd heb eu gweld o'r blaen, ac i ddathlu popeth y mae Clémentine, Charlotte a'r bobl ifanc wedi'i gyflawni drwy'r cywaith."

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr Postcode Lottery.

Bydd Ffasiwn yn agor ar 23 Mai ac yn rhedeg tan Ebrill 2027. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, ewch I https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/12923/Ffasiwn

Gwybodaeth Gyswllt

Amgueddfa Cymru Swydda'r Wasg - communications@museumwales.ac.uk