Datganiadau i'r Wasg

Gwenwch, mai'n ddydd GWENer. Mis i ddathlu pen-blwydd Gwen John yn 150 oed

Dros wythnosau olaf arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod ⁠ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i unrhyw un â'r enw Gwen!

Dynes ifanc yn edrych ar hunan bortread

Dynes ifanc yn sefyll o flaen hunan bortread, 1902, Gwen John, Tate. Credyd llun Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae'r cynnig ar gael o ddydd GWENer 29 Mai tan i'r arddangosfa gau yng Nghaerdydd ar 28 Mehefin, i ddathlu mis pen-blwydd yr artist gafodd ei geni yn Sir Benfro ganrif a hanner yn ôl.

 

Brin wythnosau cyn i'r arddangosfa gau, dyma'r cyfle olaf i ymwelwyr weld yr adolygiad trylwyr hwn o waith yr artist enwog. Ac os yw 'Gwen' yn rhan o'ch enw, gallwch chi ymweld am ddim!

 

Dywedodd Pennaeth Arddangosfeydd Amgueddfa Cymru, Lowri Angharad Williams:

 

"Mae Gwen wedi bod ar wefusau pawb eleni, a'i henw i'w weld ar bosteri a baneri yng Nghymru a thu hwnt. Pa ffordd well o ddathlu ei phen-blwydd na thrwy wahodd pawb sy'n rhannu ei henw hi i fwynhau’r arddangosfa am ddim?

"Dyma'r cyfle perffaith i bob Gwen a Gwenith, Gwenno a Gwendoline i weld ein harddangosfa ryngwladol bwysig cyn iddi adael Caerdydd ar ei thaith i'r Alban a'r UDA."

 

Rhaid i ymwelwyr sydd am fanteisio ar y cynnig ddefnyddio'r cod GWEN150 wrth archebu tocyn ar-lein.

 

Ers agor ym mis Chwefror mae Gwen John: Hardd a Hynod ⁠ wedi derbyn clod y beirniaid a phasio targedau ymwelwyr, gyda nifer o bobl yn ymweld â'r Amgueddfa am y tro cyntaf erioed.

 

Mae'r arddangosfa wedi helpu i danio ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach o Gwen John, ganrif a hanner ers ei geni, gyda rhaglen ddogfen gan BBC Cymru Wales a dau lyfr newydd yn croniclo'i bywyd a'i gwaith. Fe gydweithiodd Amgueddfa Cymru hefyd gyda'r dylunydd ffasiwn enwog Jonathan Anderson, sydd yn casglu gweithiau Gwen John, i greu cyfres o cornettes wedi'u hysbrydoli gan ei gwaith. Mae'r gyfres i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd, a phoster cyfyngedig ar gael i'w brynu o'r siop.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:

 

"Mae Gwen wastad wedi bodoli yng nghysgod enwau eraill, ond nawr mae hi'n hawlio’i moment yn yr haul gydag urddas tawel sy'n nodweddiadol o'i gwaith.

"A hyd yn hyn mae'r ymateb i'r arddangosfa wedi bod yn rhyfeddol. Mae wedi taro tant gyda'n cynulleidfa, ac rydw i'n hynod falch ei bod hi wedi denu cymaint o ymwelwyr newydd. Mae wedi bod yn fraint rhannu ein casgliad â chymaint o wahanol bobl, wrth i'n hymwelwyr gael golwg wirioneddol ar Gwen a'i gwaith. Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno mwy o bobl i gael eu hysbrydoli gan gasgliad cenedlaethol Cymru, ac rydw i'n edrych ymlaen at eu croesawu nhw i Gaerdydd a'n hamgueddfeydd ar draws Cymru."

 

Am fwy o wybodaeth ac i archebu, ewch i amgueddfa.cymru/GwenJohn