Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad o wrthrychau diwylliant cerddoriaeth amgen Cymru

Mae un o eiconau cerddorol Cymru, Rhys Mwyn, wedi rhoi nifer o wrthrychau i Amgueddfa Cymru, gan gyfoethogi'r casgliad bywyd diwylliannol.

Rhys Mwyn yn gafael yn ei siaced

Y cerddor Rhys Mwyn yn dal y siaced mae wedi rhoi i'r amgueddfa o'i gyfnod yn y band Yr Anrhefn. 

Rhys oedd basydd a lleisydd band pync Yr Anhrefn, wnaeth eu marc unigryw ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, y DU ac Ewrop yn yr 80au a’r 90au. ⁠

 

Ymhlith yr eitemau mae ei gitâr fas, crys-t y band a'i siaced ledr. Enw Rhys ar y siaced oedd Yr Offis oherwydd taw yn ei phocedi y byddai'n cadw holl arian y band ar eu teithiau drwy Ewrop! Mae hefyd wedi rhoi tair o recordiau feinyl y band – Defaid, Skateboards a Wellies, Bwrw Cwrw a Dragons Revenge ⁠– i'r casgliad.

 

Dywedodd Rhys Mwyn:

 

"Erbyn dechrau'r 80au roedd hi'n amlwg fod 'na alw am naratif newydd yn niwylliant Cymru. Roedd pobl angen lle i greu a gweiddi nerth eu pen! Dyma'r tro cyntaf i bobl greadigol oedd yn siarad Cymraeg wrthod byd Y Pethe fel oedd hi.

Dwi wrth fy modd bod archif Yr Anhrefn wedi canfod cartref da yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gan roi cyfle i genedlaethau'r dyfodol ailddarganfod diwylliant amgen Cymru diwedd yr 20fed ganrif."

 

Dywedodd Fflur Morse, Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol Amgueddfa Cymru:

 

"Mae’r Anhrefn yn cael eu cyfri'n un o'r bandiau Cymraeg pwysicaf, yn gerddorol a gwleidyddol.

Mae'n bleser gallu rhoi cartref i'r gwrthrychau hyn sy'n adrodd hanes cyfnod pwysig yng Ngherddoriaeth Cymru."

 

Bydd y gwrthrychau nawr yn cael eu catalogio a'u digideiddio cyn cael eu huwchlwytho i fas data Casgliadau Ar-lein yn y pen draw.

DIWEDD