Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae'r cyhoedd wedi bod yn tyrru safleoedd Amgueddfa Cymru gan ein codi i frig yr atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.
Staff yn paratoi diodydd i gwsmeriaid yn y Vulcan yn ystod y gwyl fwyd.
Sain Ffagan, unwaith eto, yw atyniad mwyaf poblogaidd y wlad tra bod Amgueddfa Wlân Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o ymwelwyr fesul canran. Yn ôl ffigyrau diweddaraf ALVA, fe groesawodd yr Amgueddfa Wlân yn Nhrefach Felindre, Sir Gâr, 22% yn fwy o ymwelwyr (24,915) yn 2025 na'r flwyddyn flaenorol. Daw'r newyddion ar foment bwysig i'r Amgueddfa, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant yn 2026.
Dros hanner canrif mae'r Amgueddfa wedi bod yn allweddol yn cadw a chyflwyno hanes cyfoethog a chymleth diwydiant gwlân Cymru, oedd yn rhan annatod o gymdeithas, tirwedd ac economi'r wlad o'r Oesoedd Canol tan y 19eg ganrif.
Yn ddiweddar mae'r Amgueddfa wedi ailagor ei Sied Wehyddu, lle mae crefftwyr yn dal i gynhyrchu lliain traddodiadol a blancedi brethyn dwbl prydferth gan feithrin a rhannu'r sgiliau sy'n allweddol i gynhyrchu'r defnydd terfynol.
Fe groesawodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 570,207 o ymwelwyr yn 2025, gan gadw'i lle fel atyniad mwyaf poblogaidd Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ôl ffigurau ALVA.
Ers 1948, mae adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau ac o bob cwr o Gymru wedi'u hail-adeiladu yn yr amgueddfa awyr agored, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel, ac un o'r adeiladau diweddaraf yw tafarn hynaf Caerdydd, Gwesty'r Vulcan.
Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer yw Gŵyl Fwyd Sain Ffagan, sy'n croesawu dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft dros benwythnos yn yr haf lle gall ymwelwyr fwynhau ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
Gerllaw yn y brifddinas mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn parhau'n boblogaidd, gyda 356,021 o ymwelwyr yn 2025 yn ôl ffigyrau ALVA yn hawlio'r ail safle ar y rhestr atyniadau. Roedd y flwyddyn yn llawn digwyddiadau ac arddangosfeydd dan arweiniad y gymuned, fel Hip Hop: Stori Cymru, oedd yn ddathliad o'r genre yng Nghymru, a Streic!, i nodi 40 mlynedd ers streic y glowyr yn 1984. Roedd cyfle hefyd i ymwelwyr â'r Amgueddfa gynnig enw ar gyfer y replica argraffiad 3D newydd o sgerbwd mamoth blewog, a'r enillydd swyddogol oedd 'Tom Bones'.
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:
"Mae'n bleser gweld y ffigyrau hyn sy'n dangos pa mor awyddus yw ein hymwelwyr i ddysgu ac ymwneud â diwylliant, hanes a chelf. Ond mae hefyd yn dyst i waith caled, cyfraniad ac ymdrech y staff ym mhob un o'n saith amgueddfa."Rydyn ni'n hynod o falch o'n llwyddiannau ac yn fwy penderfynol nag erioed i gysylltu â mwy fyth o bobl ar draws Cymru drwy gyfrwng ein rhaglenni arddangosfeydd, digwyddiadau ac ymgysylltu amrywiol. "Mae rhywbeth i bawb yn ein hamgueddfeydd - yn ogystal â'r safleoedd yn rhestr ALVA, cofiwch am yr ardd hyfryd yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru, ein profiad unigryw o bwll glo yn Big Pit, Ffrog Galico Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r gwaith cymunedol sydd yn digwydd ledled gogledd Cymru tra bod Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei hail-ddatblygu."
"Mae'n bleser gweld y ffigyrau hyn sy'n dangos pa mor awyddus yw ein hymwelwyr i ddysgu ac ymwneud â diwylliant, hanes a chelf. Ond mae hefyd yn dyst i waith caled, cyfraniad ac ymdrech y staff ym mhob un o'n saith amgueddfa.
"Rydyn ni'n hynod o falch o'n llwyddiannau ac yn fwy penderfynol nag erioed i gysylltu â mwy fyth o bobl ar draws Cymru drwy gyfrwng ein rhaglenni arddangosfeydd, digwyddiadau ac ymgysylltu amrywiol.
"Mae rhywbeth i bawb yn ein hamgueddfeydd - yn ogystal â'r safleoedd yn rhestr ALVA, cofiwch am yr ardd hyfryd yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru, ein profiad unigryw o bwll glo yn Big Pit, Ffrog Galico Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r gwaith cymunedol sydd yn digwydd ledled gogledd Cymru tra bod Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei hail-ddatblygu."