Datganiadau i'r Wasg

Diweddariad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Datganiad ar ran Amgueddfa Cymru: 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae cynnal adeilad hanesyddol o faint, oed a chymhlethdod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn heriol. Gyda’r Amgueddfa yn agosáu at ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ar opsiynau i wella ac ailddatblygu i gynnal a chadw'r adeilad ac i wella'r profiad i’n hymwelwyr, gan sicrhau ei fod yn adeilad fydd yn gallu cael ei ddefnyddio am genedlaethau i ddod. Mae’r cynlluniau cyffrous ar gyfnod cynnar ac yn ddibynnol ar sawl cam o gynlluniau busnes a fframwaith cynllunio felly ar hyn o bryd does ddim penderfyniadau wedi cael eu gwneud. 

Byddai unrhyw benderfyniad bwriadol i gau adeilad yr Amgueddfa dros dro yn ddibynnol ar arolygiad llawn ac ymgynghoriad gyda’n staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ar gymuned ehangach, ac yn cael ei gadarnhau gan fwrdd yr ymddiriedolwyr. 

Yn y cyfamser, rydym wedi penodi tîm dylunio sy’n golygu bod gwaith galluogi sydd angen cael ei wneud am resymau cynnal a chadw nawr yn gallu cael ei gwblhau. Bydd opsiynau a chysyniadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried er mwyn rhoi’r Amgueddfa yn y lle gorau posib i fwrw ati gyda gwaith ehangach pe baem yn parhau gyda nhw yn y dyfodol.  

DIWEDD