Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa yn rhan o broject mawr i ddatgloi dros 300 mlynedd o ddata bioamrywiaeth
Casgliad pryfeteg Amgueddfa Cymru
Mae cyllid wedi'i gadarnhau ar gyfer project ymchwil a fydd yn gweld Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag Amgueddfa Astudiaethau Natur Llundain, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI (AHRC) a phartneriaid ledled y DU ar broject newydd i ddigido casgliadau gwyddorau naturiol y DU.
Mae DiSSCo UK (Distributed System of Scientific Collections UK) yn rhaglen ddigido genedlaethol 10 mlynedd gwerth £155m a fydd yn canoli casgliadau gwyddorau naturiol o bob cwr o'r DU ar un porth. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan Gyllid Isadeiledd UKRI ac yn cael ei chyflwyno drwy AHRC mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Astudiaethau Natur a dros 100 o bartneriaid ledled y DU. Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau £1.6m ar gyfer y cam cyntaf i arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin, hwb newydd a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i ddigido cannoedd ar filoedd o sbesimenau gwyddorau naturiol ledled Cymru, de-orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae cadarnhau'r cyllid yn nodi'r grant uchaf erioed y mae'r amgueddfa wedi'i dderbyn ar gyfer project ymchwil, ac mae'n cydnabod lefel yr arbenigedd o fewn tîm ymchwil Amgueddfa Cymru i arwain y hwb.
Gan uno arbenigedd ar draws tair gwlad, mae hwb DiSSCo UK | Gorllewin yn dwyn ynghyd Amgueddfa Cymru fel Hwb Arweiniol, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste a Museum Development South West, Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Fel rhan o’r rhaglen 18 mis sy'n dechrau ym mis Medi 2026, bydd y partneriaid yn cipio tua 500,000 o sbesimenau botaneg ac entomoleg yn ddigidol gan ddefnyddio delweddu aml-gamera cydraniad uchel. Bydd y rhain yn cynnwys sbesimenau planhigion prin o gasgliadau herbariwm yn ogystal â phryfed, y mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf yn y DU ohonyn nhw.
Bydd y data wedi’i ddigido newydd yn agor y casgliadau gwyddorau naturiol i ymchwilwyr ledled y byd, gan gefnogi ymchwil fyd-eang i golli bioamrywiaeth a gwytnwch yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Bydd canoli'r data gwyddonol hwn yn ei gwneud hi'n llawer haws i wyddonwyr gael mynediad ato’n fyd-eang, yn hytrach na’i fod yn cael ei gadw gan amgueddfeydd unigol.
Meddai Jenny Geroni, Pennaeth Ymchwil Amgueddfa Cymru ac Arweinydd Project DiSSCo UK West:
'Mae ein llwyddiant wrth sicrhau'r cyllid gwerth £1.6m hwn ar gyfer y cam cyntaf yn dilyn proses ymgeisio drylwyr, ac rydyn ni’n hynod falch o fod bellach yn arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin. Mae'n dangos gwaith caled ein hymchwilwyr yn Amgueddfa Cymru ac arbenigedd ein timau curadurol a chadwraeth.'Gan weithio gyda'n partneriaid yn y consortia, byddwn yn ceisio cyflwyno model cynaliadwy, cynhwysol ar gyfer digido gwyddorau naturiol sy'n cryfhau cyfraniad y DU at ymdrechion cadwraeth rhyngwladol.'
'Mae ein llwyddiant wrth sicrhau'r cyllid gwerth £1.6m hwn ar gyfer y cam cyntaf yn dilyn proses ymgeisio drylwyr, ac rydyn ni’n hynod falch o fod bellach yn arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin. Mae'n dangos gwaith caled ein hymchwilwyr yn Amgueddfa Cymru ac arbenigedd ein timau curadurol a chadwraeth.
'Gan weithio gyda'n partneriaid yn y consortia, byddwn yn ceisio cyflwyno model cynaliadwy, cynhwysol ar gyfer digido gwyddorau naturiol sy'n cryfhau cyfraniad y DU at ymdrechion cadwraeth rhyngwladol.'
Meddai Cadeirydd Gweithredol AHRC, yr Athro Christopher Smith:
'Ers cannoedd o flynyddoedd mae'r DU wedi casglu a thyfu un o'r casgliadau mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol yn y byd o ddeunydd gwyddonol mewn amgueddfeydd ledled y DU. Mae wedi bod yn uchelgais hirdymor i ddod â'r casgliad hwn ynghyd – a nawr gall y freuddwyd honno gael ei gwireddu.'Dros gyfnod o ddeng mlynedd, bydd DiSSCo UK yn cyflwyno cynnydd a fyddai fel arall wedi cymryd dros ganrif, gan gynnwys creu miliynau o gofnodion wedi’u digido o’r newydd a rhwydwaith o oddeutu 100 o gasgliadau o amgueddfeydd a gerddi cenedlaethol, ac o brifysgolion i gasgliadau lleol na fyddai erioed wedi cael mynediad o'r fath hebddo. Bydd canlyniadau'r buddsoddiad hwn o £155m yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i wyddoniaeth yn ogystal â chymdeithas.'Mae AHRC yn falch o fod wedi arwain buddsoddiad mwyaf erioed UKRI yn y sector GLAM, cyfraniad arall at ein harweinyddiaeth yn yr economi greadigol a diwylliannol.'
'Ers cannoedd o flynyddoedd mae'r DU wedi casglu a thyfu un o'r casgliadau mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol yn y byd o ddeunydd gwyddonol mewn amgueddfeydd ledled y DU. Mae wedi bod yn uchelgais hirdymor i ddod â'r casgliad hwn ynghyd – a nawr gall y freuddwyd honno gael ei gwireddu.
'Dros gyfnod o ddeng mlynedd, bydd DiSSCo UK yn cyflwyno cynnydd a fyddai fel arall wedi cymryd dros ganrif, gan gynnwys creu miliynau o gofnodion wedi’u digido o’r newydd a rhwydwaith o oddeutu 100 o gasgliadau o amgueddfeydd a gerddi cenedlaethol, ac o brifysgolion i gasgliadau lleol na fyddai erioed wedi cael mynediad o'r fath hebddo. Bydd canlyniadau'r buddsoddiad hwn o £155m yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i wyddoniaeth yn ogystal â chymdeithas.
'Mae AHRC yn falch o fod wedi arwain buddsoddiad mwyaf erioed UKRI yn y sector GLAM, cyfraniad arall at ein harweinyddiaeth yn yr economi greadigol a diwylliannol.'
Bydd y gwaith i ddechrau'r digido yn digwydd o fis Medi 2026, a bydd rolau a chyfleoedd hyfforddi nawr yn cael eu recriwtio i gefnogi'r rhaglen.
Mae rhagor o wybodaeth am waith ymchwil Amgueddfa Cymru ar gael yn amgueddfa.cymru
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth a delweddau cysylltwch â:
Rachel Bowyer
Arweinydd Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
029 2057 3614
rachel.bowyer@amgueddfacymru.ac.uk
cyfathrebu@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae yma i bawb ei mwynhau. Rydyn ni’n elusen ac yn deulu o saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad. Ein nod yw bod yn ganolbwynt diwylliannol i Gymru yn y byd ac ysbrydoli dysgu a mwynhad i bawb drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru.
Mae mynediad i’n hamgueddfeydd yn rhad ac am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ymestyn i bobl o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Cyfrannwch at stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno, cyfrannu.
www.amgueddfa.cymru
Mae DiSSCo UK (Distributed System of Scientific Collections UK) yn rhaglen ddigido genedlaethol 10 mlynedd gwerth £155 miliwn. Mae'n cael ei chyflwyno drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Astudiaethau Natur a dros 100 o bartneriaid ledled y DU.
Mae casgliadau gwyddorau naturiol y DU yn cynnwys mwy na 140 miliwn o eitemau sy'n rhychwantu hanes anhygoel o 4.6 biliwn o flynyddoedd - mae ymchwilwyr yn defnyddio'r casgliadau hyn i ddod o hyd i atebion i broblemau byd-eang fel colli bioamrywiaeth a diogeledd bwyd.
Bydd DiSSCo UK yn dod yn seilwaith gwyddoniaeth ar-lein un stop, dynamig, sydd ar gael yn agored ac yn hawdd ei ddefnyddio, gan integreiddio mynediad digidol at gasgliadau gwyddorau naturiol y DU.
Trwy ddigido, cydlynu, arloesi ac adeiladu cymunedau, byddwn yn creu seilwaith unigryw sy'n adeiladu capasiti digidol y DU ac yn manteisio’n llawn ar effaith data y gwyddorau naturiol.
Gallwch ddysgu mwy ac archwilio'r hyn sydd eisoes wedi'i ddigido ar wefan DiSSCo UK
Dyfyniadau Ychwanegol
Meddai Kathryn Thomson, Prif Weithredwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon:
“Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon yn falch o fod yn rhan o hwb DiSSCo UK | Gorllewin, gan weithio gydag Amgueddfa Cymru a phartneriaid ledled y DU i wneud casgliadau gwyddorau naturiol yn fwy hygyrch ac effeithiol.
“Trwy ddigido sbesimenau a sicrhau eu bod ar gael yn agored i ymchwilwyr ledled y byd, bydd y prosiect hwn yn datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil, dysgu a darganfod, tra'n cryfhau ein cyd-ddealltwriaeth o'r byd naturiol.
“Mae cydweithredu yn ganolog i'w llwyddiant, ac mae'r fenter yn cyd-fynd yn gryf â'n hymrwymiad i gyflawni effaith amgylcheddol gadarnhaol. Bydd yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr wrth fynd i'r afael â heriau fel colli bioamrywiaeth a newid amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”
Meddai Dr Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a'r Herbariwm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner ym menter newydd DiSSCo UK West. Mae herbariwm yr Ardd Fotaneg yn dal mwy na 30,000 o sbesimenau planhigion, ac er ein bod wedi gwneud cynnydd mawr wrth guradu a digido’r casgliad, mae ein taith ymhell o fod ar ben. Ar hyn o bryd dim ond 17% sydd wedi'u digido'n llawn, a does dim o’r sbesimenau ar gael eto trwy gronfeydd data byd-eang. Daw'r prosiect hwn ar yr adeg iawn, gan ein galluogi i barhau i weithio gyda grŵp gwych o wirfoddolwyr ymroddedig i gwblhau'r gwaith o ddigido ein casgliad.
“Byddwn hefyd yn ymweld â chasgliadau herbariwm rhanbarthol ledled Cymru i bwyso a mesur cyfleoedd ar gyfer cefnogi eu gwaith digido hwythau drwy gydweithio yn y dyfodol.”
Meddai Linda Coode, Pennaeth Casgliadau ac Archifau yn Amgueddfeydd Bryste:
"Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o DiSSCo UK West. Mae'n gyffrous dros ben digido ein data bioamrywiaeth o bwys cenedlaethol o'n casgliadau gwyddorau naturiol fel y gellir ei ddatgloi at ddefnydd ymchwilwyr ym mhedwar ban byd.
“Dyma gyfle gwych i ni weithio ar y cyd â Museum Development South West a phartneriaid amgueddfeydd allweddol ledled y De-orllewin i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a datblygu sgiliau, fel y gellir helpu mwy o amgueddfeydd i gymryd rhan mewn projectau tebyg.
“Mae cydweithio trwy DiSSCo UK West ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a De-orllewin Lloegr yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau gwyddorau naturiol yn gwneud cyfraniad mwy nag erioed at waith ymchwil, ymgysylltu â'r cyhoedd, gwarchod natur a gwytnwch yn wyneb newid yn yr hinsawdd.”