Datganiadau i'r Wasg
Arddangos cerfiadau Rhufeinig am y tro cyntaf – portreadau cynharaf Cymru o bosibl
Dyddiad:
2026-08-25Bydd dau banel carreg cerfiedig Rhufeinig, portreadau cynharaf Cymru o bosibl, yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Cymru.
Cafodd y cerfiadau, sy'n dangos Celtiaid gafodd eu trechu a'u carcharu gan y Rhufeiniaid, eu darganfod yn ystod gwaith cloddio yng Nghaerllion yn 2010. Yn dilyn gwaith ymchwil a chadwraeth, bydd ymwelwyr nawr yn gallu gweld yr arteffactau rhyfeddol fel rhan o arddangosfa barhaol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.
Mae eu cartref newydd dafliad carreg o'r fan lle cawson nhw eu darganfod tua 16 mlynedd yn ôl. Cafodd un o'r cerrig ei darganfod gan Uwch Guradur Archaeoleg Rufeinig Amgueddfa Cymru, Dr Mark Lewis, yn ystod gwaith datgloddio yng Nghae'r Priordy yn 2010, project cydweithredol rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Lewis ei fod yn cofio bod y gwaith cloddio wedi’ atal oherwydd glaw trwm, ac felly dim ond fe a'r Athro Andrew Gardner o UCL oedd ar ôl ar y safle. Wrth chwilio drwy bentwr o gerrig, dyma fe’n sylwi ar ddarn o garreg rywiog oedd fel petai wedi cael ei drin.
Ar ôl troi’r garreg drosodd, gwelodd wyneb dynol wedi'i gerfio ar yr wyneb. Mae’n gerfiad o un o elynion Rhufain wedi’i drechu, gyda’i wallt hir cyrliog a’i wyneb trist, yn pwyso ymlaen gyda’i ddwylo wedi'u clymu y tu ôl i'w gefn.
Cafodd rhan o ail gerfiad ei ddarganfod yn ystod y gwaith cloddio hefyd, sy'n dangos gelyn arall a drechwyd gan Rufain yn ymestyn ei ddwylo agored fel apêl am ei fywyd neu fywydau ei bobl.
Yn ôl Dr Lewis, mae'n debyg bod y paneli wedi'u cerflunio gan, neu ar gyfer, llengfilwyr Rhufeinig yng Nghaerllion (sef Isca iddyn nhw) ac efallai y bydden nhw’n addurno adeilad yn y gaer ar un adeg.
Y gred yw bod y cerfiadau'n dyddio o 75 AD - 150 AD, ond wedi eu darganfod o gyfnod hwyrach, ac mae’n bosibl taw dyma bortreadau cerfiedig cynharaf Cymru.
Dywedodd Dr Mark Lewis, Uwch Guradur Archaeoleg Rufeinig Amgueddfa Cymru:
‘Wrth i fi droi’r garreg drosodd a gweld yr wyneb yn syllu’n ôl, roeddwn i’n gwybod ein bod ni wedi dod o hyd i rywbeth arbennig.
‘Mae'r motiffau yma’n ddelweddau propaganda cyffredin ledled yr ymerodraeth, ond gan eu bod yn darlunio llwythwyr brodorol wedi'u trechu yng nghaer llengyddol Isca (Caerllion heddiw), mae'n debygol eu bod yn cynrychioli dau lwythwr brodorol wedi'u trechu o'r rhan hon o Brydain. Yn ne-ddwyrain Cymru, mae ffynonellau Rhufeinig yn dweud wrthym mai enw'r bobl yma yw Silwriaid. Oherwydd hyn, gellir dadlau eu bod yn cynrychioli'r portreadau cynharaf o bobl o'r rhan hon o'r byd.
‘Yr hyn sy’n gwneud y cerfluniau'n mor nodedig yw eu bod nhw'n rhoi cipolwg uniongyrchol i ni ar y berthynas rhwng byddin Rhufain a’r bobl frodorol a gafodd eu concro ganddyn nhw. Bron i 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach, gallwn ni weld yr ochr ddynol yn wyneb yr unigolyn o hyd.’
Ychwanegodd Dai Price, Pennaeth Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru:
‘Mae'n bleser gwneud y cerfluniau rhyfeddol hyn yn rhan o’n harddangosfa barhaol am y tro cyntaf.
‘Maen nhw o bwys cenedlaethol ond gyda chysylltiad uniongyrchol â Chaerllion, gan eu bod nhw wedi eu canfod yn agos iawn i'r Amgueddfa. Mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle prin i ymwelwyr ddod wyneb yn wyneb â darnau rhyfeddol o gelf sy'n cysylltu hanes y Rhufeiniaid a phobl Cymru.’
Nodiadau i Olygyddion:
Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru
Mae Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru yn adrodd hanes y Rhufeinwyr yng Nghymru. Roedd Caerllion yn un o dair Caer barhaol a godwyd yn y Brydain Rhufeinig. Saif yr Amgueddfa oddi mewn i olion y gaer. Mae'r Adfeilion yn cynnwys yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain a'r unig olion o Farics Lleng Rufeinig ar ddangos unrhyw le yn Ewrop.
Hanes Ymerodraeth Rhufain yn ne-ddwyrain Cymru
Tua 75 AD, sefydlodd Ail Leng Awgwstaidd (Legio II Augusta) Ymerodraeth Rhufain gaer yng Nghaerllion – Isca oedd enw'r Rhufeiniaid arni. Roedd yn bencadlys iddyn nhw am tua 200 mlynedd, ond nid oedd pawb wedi'u plesio gan dwf yr ymerodraeth.
Pobl Oes yr Haearn oedd y Silwriaid (llwyth Celtaidd) a oedd yn byw yn yr hyn sydd bellach yn dde-ddwyrain Cymru. Nid yw’r Silwriaid wedi gadael unrhyw gofnodion ysgrifenedig eu hunain, ond disgrifiodd yr hanesydd Rhufeinig Tacitus nhw fel pobl falch a gwydn, gydag arweinwyr rhyfelgar, oedd yn gwrthwynebu'r Rhufeiniaid yn ffyrnig.
Dyma nhw’n gwneud safiad cryf ac yn gwrthryfela yn erbyn byddin Rhufain o tua 48 AD. Roedd eu tactegau ymladd guerrilla diflino yn hynod effeithiol gan eu bod yn gyfarwydd iawn â'r tir mynyddig a choediog.