Datganiadau i'r Wasg
Ffosil a ddarganfuwyd ar draeth Larnog yn helpu i ddatrys dirgelwch 200 mlwydd oed
Dyddiad:
2026-09-25Mae ffosil a ddarganfuwyd ar Draeth Larnog wedi helpu ymchwilwyr i ddatgelu gwybodaeth newydd am y pysgod a oedd yn nofio yn y moroedd o amgylch Cymru dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ffosil a ddarganfuwyd ar draeth Larnog
Roedd helwyr ffosilau o Gymru, Jonathan Bow yn chwilio ar hyd y lan pan welodd ffosil anghyffredin. Yn y diwedd fe sylweddolwyd bod hwn yn ddarn o ffosil prin o ên oedd yn cynnwys dannedd yn datblygu. Ers hynny, mae’r darganfyddiad wedi helpu i ddatrys dirgelwch sydd wedi peri penbleth i wyddonwyr ers bron i 200 mlynedd.
Am genedlaethau, roedd yn anodd adnabod dannedd ffosil a geid mewn creigiau o amgylch Môr Hafren. Oherwydd eu siâp anarferol, roedd rhai gwyddonwyr cynnar hyd yn oed yn credu eu bod yn perthyn i amffibiaid enfawr yn hytrach nag i bysgod.
Dywedodd Cindy Howells, Curadur Daeareg yn Amgueddfa Cymru:
"Cafodd llawer o ddannedd Saurichthys eu camgymryd unwaith fel rhai amffibiad, a pharhaodd y camsyniad hwnnw ymhell i mewn i’r 20fed ganrif.
Mae’r ên fach yma wedi achosi tipyn o ddryswch pan ddaethpwyd o hyd iddo yn gyntaf gan ei fod yn dangos dim tebygolrwydd i unrhyw rywogaeth arall."
Bu ymchwilwyr o Amgueddfa Cymru, Prifysgol Bryste ac Amgueddfa Hanes Naturiol Talaith Stuttgart yn cydweithio i astudio’r ffosil. Dangosodd eu hymchwil fod ffosilau a oedd gynt wedi’u grwpio gyda’i gilydd o dan un enw mewn gwirionedd yn perthyn i ddwy rywogaeth wahanol o bysgod a oedd yn byw yn ystod y cyfnod Triasig Hwyr.
Ar ôl ei ddarganfod, anfonwyd y ffosil i Brifysgol Bryste i’w hastudio ymhellach.
Dywedodd Jacob Quinn, y prif ymchwilydd:
"Ffurfiwyd y creigiau hyn yn ystod stormydd dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, felly mae’n rhyfeddol bod ffosil mor fregus wedi goroesi. Er bod ffosilau Triasig Prydain wedi’u hastudio ers dros 200 mlynedd, dyma’r asgwrn cyntaf o Saurichthys a ddarganfuwyd erioed yn y creigiau hyn."
Mae’r darganfyddiad wedi arwain at gyhoeddi papur gwyddonol sy’n rhannu canfyddiadau’r tîm.
Dywedodd yr Athro Mike Benton, cyd-awdur yr astudiaeth:
"Mae’r ên ffosiledig fregus hon bellach wedi’i chymharu â sbesimenau mewn casgliadau amgueddfeydd ledled Prydain ac Ewrop, gan ddarparu tystiolaeth glir bod ffosiliau y credid yn wreiddiol eu bod yn perthyn i’r un pysgodyn mewn gwirionedd yn deillio o ddwy rywogaeth ar wahân."
Dywedodd Dr David Whiteside, cyd-awdur arall:
"Roedd yr ysglyfaethwyr hyn yn byw mewn môr trofannol bas yn llawn ynysoedd calchfaen bach. Mae’n debyg bod Saurichthys yn heliwr cyflym ac ystwyth, tra roedd Birgeria yn fwy ac yn gryfach, ac yn ôl pob tebyg yn bwydo ar amrywiaeth ehangach o ysglyfaeth."
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Sam Cooper:
"Mae hanes hynod gymhleth i’r pysgod hyn. Mae’n anhygoel bod un ffosil, a ddarganfuwyd gan Jonathan Bow yn ystod llanw mawr yn y gwanwyn, wedi helpu i glirio bron i 200 mlynedd o ddryswch."
Mae’r darganfyddiad hefyd yn amlygu sut y gall technoleg fodern ac ymchwil newydd helpu amgueddfeydd i ddysgu mwy o ffosilau sydd wedi’u casglu a’u hastudio ers cenedlaethau.
Bydd y ffosil yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddiweddarach eleni.
Ychwanegodd Cindy Howells:
"Bydd gallu rhannu’r darganfyddiad anhygoel hwn â’r cyhoedd yn tanio dychymyg pobl ac, gobeithio, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o helwyr ffosilau i archwilio’r darganfyddiadau rhyfeddol y gellir eu canfod ar hyd arfordir Cymru."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ledled y wlad. Ein nod yw bod yn esiampl ddiwylliannol i Gymru ar lwyfan y byd ac ysbrydoli dysgu a mwynhad i bawb drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru.
Mae ein croeso am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ymestyn i bobl o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Cymerwch ran yn stori Cymru drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno neu roi cyfraniad.
www.amgueddfa.cymru
Y papur
Redescriptions of Birgeria acuminata (Agassiz, 1835) and Saurichthys sp. (Actinopterygii) fossils from the British Rhaetian, and redundancy of the genus Severnichthys Storrs, 1994
Jacob G. Quinn, David I. Whiteside, Samuel L.A. Cooper, Jonathan Bow, Amaury Baffou, Cindy Howells, Evangelos R. Matheau-Raven a Michael J. Benton. Journal of Vertebrate Paleontology (2025).