Datganiadau i'r Wasg
Sgan CT yn helpu i ddatrys dirgelwch 400 mlynedd
Dyddiad:
2026-11-04Mae arbenigwyr yn Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi defnyddio technoleg sganio CT arloesol i agor clo cyfunrhif canrifoedd oed gafodd ei ddarganfod yn un o longddrylliadau mwyaf rhyfeddol Cymru.
Mae arbenigwyr yn Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi defnyddio technoleg sganio CT arloesol i agor clo cyfunrhif canrifoedd oed gafodd ei ddarganfod yn un o longddrylliadau mwyaf rhyfeddol Cymru.
Roedd y clo pres yn rhan o glec yr Ann Francis, ac wedi bod ar glo ers i'r llong gael ei dryllio ar arfordir Cymru yn 1583. O'r diwedd mae ymchwilwyr wedi datrys y cod pedair llythyren sydd wedi bod yn gyfrinach am dros bedair canrif: ANCE.
Cafodd yr Ann Francis ei dal mewn storm ffyrnig ar 28 Rhagfyr 1583 ar y ffordd nôl o Sbaen. Cafodd hi ei chwythu ar y creigiau ar draeth Margam, ger Port Talbot. Roedd cargo rhyfeddol y llong ynghudd dan y tywod am ganrifoedd, cyn cael ei ddarganfod gan ddefnyddwyr datgelyddion metel a chael ei gaffael gan Amgueddfa Cymru.
Drwy gydweithio ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, defnyddiodd staff yr Amgueddfa offer sganio CT i edrych ar fecanwaith y clo heb achosi niwed. Diolch i'r gwaith ditectif hyn, llwyddodd yr ymchwilwyr i adnabod y cod llythrennau cywir a datgloi'r gwrthrych hanesyddol.
Dywedodd Dr David Williams, cymrawd ymchwil yn Adran Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd:
'Diolch i ficro-sganio CT fe lwyddon ni i weld tu mewn i'r clo heb ei ddifrodi. Drwy greu delwedd 3D manwl o'r mecanwaith, gallwn i weld sut oedd y rhigolau'n alinio â'r llythrennau, a datrys y cod.
'Byddwn ni fel arfer yn defnyddio'r dechnoleg hyn i astudio esgyrn a strwythurau biomecanyddol. Dyma'r tro cynta i ni sganio clo 400 can mlwydd oed! Roedd yn rhaid aros ychydig oriau i dîm yr Amgueddfa brofi'r cyfuniad, ac roedd clywed y neges eu bod nhw wedi agor y clo yn wych.
'Ddim bob dydd fyddwch chi'n datrys dirgelwch pedair canrif!'
Mae'n debyg y byddai'r clo wedi diogelu cist fach o eitemau gwerthfawr. Cafodd ei ganfod gerllaw casgliad o geiniogau arian o Sbaen a dau bwysyn gafodd eu codi o'r llongddrylliad. Mae'n bosib y byddai'r clo wedi diogelu'r arian hyn, neu gist o eiddo gwerthfawr sydd heb oroesi, fel dogfennau neu ddefnydd.
Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru:
'Mae cloeon cyfunrhif o Oes Elisabeth wedi eu canfod ym Mhrydain, ond mae'r cyflwr rhagorol, y cysylltiad â'r llongddrylliad, a'r cod yn ei wneud yn ddirgelwch ofnadwy o ddiddorol. Wrth gwrs, ar ôl cracio'r cod rydyn ni'n dechrau meddwl a oedd y gair yn golygu rhywbeth i'r perchennog.'
Cafodd y rhan fwyaf o'r celc rhyfeddol ei ddarganfod gan Peter Hughes wrth ddefnyddio datgelydd metel dros gyfnod o 21 mlynedd rhwng 1996 a 2017. Dadorchuddiodd Peter y trysor ar ôl i waith treillio a stormydd symud haenau o dywod o draeth Margam, gan ddatgelu olion y casgliad hyfryd hwn o'r unfed ganrif ar bymtheg.
Dywedodd canfyddwr y celc, Peter Hughes:
'Pan wnes i ganfod y clo fe ges i'n rhyfeddu yn syth gan y crefftwaith cain a'r cyflwr rhyfeddol. Pan geisiais i symud cylchoedd deial y cyfunrif, prin oeddwn i'n gallu credu pa mor hawdd oedden nhw'n troi ar ôl 400 mlynedd Dwi hefyd yn cofio bod yn llawn cyffro i ganfod y pethau rhyfeddol fyddai wedi cael eu cloi yn y gist!'
Mae'r clo cyfunrhif yn un o sawl gwrthrych o gelc yr Ann Francis sydd i'w gweld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill o'r llongddrylliad mae ceiniogau aur prin o deyrnasiad Ferdinand ac Isabella o Sbaen, a chwiban bosn.
Llwyddwyd i sicrhau'r celc ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodareth Cymru. Mae arddangos casgliadau fel celc yr Ann Francis yn rhan o'r gwaith o ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel amgueddfa’r môr, sy'n adrodd hanes morwrol cyfoethog Cymru a'i chysylltiadau â'r byd ehangach.
Mae Trysorau'r Tonnau i'w gweld yn Amgueddfa genedlaethol y Glannau, Abertawe tan fis Mehefin 2027.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru: drwy wirfoddoli, ymuno neu gyfrannu heddiw.
www.amgueddfa.cymru