Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

Mwynhewch diwrnod ‘Dyfeisgar’ gyda llu o weithgareddau ymarferol i'r teulu cyfan ar gyfer Wythnos Gwyddoniaeth!

17 Mawrth 2024

Mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn paratoi ar gyfer diwrnod 'DYFEISGAR' o weithgareddau 

i ddathlu wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol.  O gylchedau golau i gylchoedd creigiau, bydd DYFEISGAR,  a gynhelir ddydd Sul 17 Mawrth  rhwng 10am – 3pm, yn cynnwys llu o weithgareddau ar thema PŴER. 

Canfod Trysor Rhufeinig ar Ynys Môn

14 Mawrth 2024

Cafodd pâr o freichledau Rhufeinig eu datgan yn drysor ar ddydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Kate Robertson.

Cafodd dwy freichled aloi copr (Achos Trysor 23.68) eu canfod gan Mr Andrew Hutchinson wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddyfnan, Sir Fôn, ym mis Medi 2023. Gan eu bod yn Drysor, cafodd y breichledau eu trosglwyddo i Sean Derby yn Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed cyn cael eu cludo i’w hadnabod a’u dehongli gan guraduron arbenigol Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Gwisg o Arian: Canfod trysor yn ne-orllewin Cymru

13 Mawrth 2024

Cafodd pedwar canfyddiad, gan gynnwys crogdlws a gwniadur arian Ôl-ganoloesol, eu datgan yn drysor ar dydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Brig Grwner E.F. Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Paul Bennett.  

Cafodd crogdlws arian Ôl-ganoloesol (Achos Trysor 20.12) ei ganfod gan Mr Nicholas Davies wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llansteffan, Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2020. Cafodd y Trysor ei drosglwyddo yn ddiogel i Amgueddfa Cymru er mwyn ei adnabod, ac adroddwyd ar y canfyddiad gan Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar. 

Amgueddfa Cymru yn croesawu pum aelod newydd i’r Bwrdd

8 Mawrth 2024

Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu pum ymddiriedolwr newydd i’w Bwrdd er mwyn symud ei gwaith ymlaen dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd y pum ymddiriedolwr, dau ohonynt wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru a thri gan Amgueddfa Cymru, yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd.

Dywedodd Kate Eden, Cadeirydd Amgueddfa Cymru,

“Rydw i wrth fy modd i groesawu’r ymddiriedolwyr newydd, a bydd eu profiad helaeth ar draws sawl rhan o’r gymdeithas yn ein helpu i lywio cyfeiriad Amgueddfa Cymru ar gyfer y dyfodol.”

Yr ymddiriedolwyr newydd yw:

Llion Iwan – Ymunodd Llion â Cwmni Da yn 2019 fel Cyfarwyddwr Cynnwys a chymerodd yr awenau fel Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2021.

Daniel Richards – Cafodd Daniel ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ac fe aeth i Ysgol y Bont-faen cyn mynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae gan Daniel 25 mlynedd o brofiad fel cyfreithiwr busnes yn gweithio ar drafodiadau rhyngwladol yn y DU ac Ewrop.

Dr Emma Yhnell – Mae Dr Yhnell yn addysgwr sydd wedi ennill sawl gwobr, yn gyfathrebwr gwyddonol ac yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Jan Williams OBE – Mae gan Jan Williams brofiad mewn uwch-dimau arwain ar draws y system gofal iechyd gyfan yng Nghymru, gyda gyrfa lwyddiannus yn arwain a datblygu sefydliadau, yng ngwyddoniaeth gwella ac ym meysydd ymchwilio, archwilio a rheoleiddio wrth greu gwelliannau mewn polisi ac arferion.

David Aled Jones – Mae Dave Jones, sydd wedi gweithio fel rheoleiddiwr amgylcheddol am 20 mlynedd, yn Uwch-gynghorydd Arbenigol yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dave sy’n gyfrifol am ddatblygu polisi a chanllawiau ar gyfer rheoli a gwarchod dŵr daear yng Nghymru.

Gallwch chi ddarllen rhagor amdanyn nhw yma

Dathlu ymgyrch menywod dros heddwch byd-eang mewn arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

6 Mawrth 2024

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn taflu goleuni ar straeon menywod Cymru a ymgyrchodd dros ddyfodol di-ryfel. 

Eitemau Crefyddol o Ffynnon ar Ynys Môn yn Cael eu Datgan yn Drysor

28 Chwefror 2024

Mae grŵp o 16 arteffact o Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid wedi’u datgan yn Drysor ar ddydd Mercher 28 Chwefror 2024 gan Uwch Grwner ei Fawrhydi ar gyfer Gogledd-Orllewin Cymru, Ms Kate Robertson.

Hunanbortread Van Gogh yn dod i Gymru am y tro cyntaf

9 Chwefror 2024

 

  • Bydd y gwaith celf yn rhan o arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 
  • Mae’r benthyciad yn nodi diwedd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi cryfhau cysylltiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes drwy fwy na 40 o ddigwyddiadau
  • Bydd La Parisienne yn teithio i Musée d’Orsay, Paris yn rhan o’r gyfnewidfa gelf 

Paul Loveluck (1942-2024)

6 Chwefror 2024

Teyrnged i gyn-lywydd Amgueddfa Cymru wrth ein Cadeirydd, Kate Eden

⁠Mounira Al Solh yn ennill Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams

5 Chwefror 2024

Fel rhan o Artes Mundi 10, mae Mounira Al Solh yw enillydd ⁠Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams. 

Mae HWYRNOS yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2024

29 Ionawr 2024

Dathlu celf, diwylliant a chymuned

Archif Newyddion