Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad

Rydyn ni a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi datblygu cynlluniau fydd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn adlewyrchu bywydau pob unigolyn a phob cymuned.

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad wrth ymateb i dri adroddiad am ehangu ymgysylltiad a gomisiynwyd yn ystod haf 2020 ac a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021. 

Er mwyn rhoi'r newidiadau angenrheidiol ar waith yn y ddau sefydliad, o fewn y sector ac yng Nghymru, rydyn ni’n credu y dylai pob unigolyn a chymuned gael cyfrannu at y drafodaeth ynghylch beth sy'n cyfri fel diwylliant, lle mae'n digwydd, pwy sy'n ei greu a phwy sy'n ei brofi.

Yn y cynlluniau rydym yn ymroi i'r canlynol:

  • Bydd cymunedau yn arwain ac yn cydgynhyrchu rhaglenni diwylliannol a bydd cyfleoedd i gael at nawdd ac adnoddau celfyddydol yn decach.
  • Mabwysiadu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn drydedd iaith a gweithio tuag at sicrhau fod lleoliadau celfyddydol, amgueddfeydd ac adnoddau diwylliannol mor hygyrch â phosibl.
  • Sicrhau fod yr arweinyddiaeth yn y ddau sefydliad yn cynrychioli'r boblogaeth a datgan na fyddant yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu.
  • Bwrw ymlaen â’n gwaith ar hyrwyddo’r Gymraeg a gwireddu amcanion Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cymuned, ac mae aelodau'r cymunedau hynny yn defnyddio ac yn dathlu'r iaith bob dydd.

Mae'r ymrwymiadau yn ymateb i ymchwil gan Re:cognition yn canolbwyntio ar ardal led-wledig o dlodi; Richie Turner Associates, wnaeth greu tîm i ganolbwyntio ar bobl anabl a byddar; a Welsh Arts Anti-Racist Union (WAARU), a ganolbwyntiodd ar amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig. Cawsant eu comisiynu i’n helpu i ddeall yn well sut y gallwn gyrraedd rhai o'r cymunedau rydyn ni’n methu'n gyson â'u cynnwys yn ein gwaith.