Ymchwil Ehangu Ymgysylltiad

Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru dendr i gynnal cyfres o sgyrsiau ymchwil dwys. Ein nod oedd ehangu ymgysylltiad â chymunedau yr ydym yn methu yn gyson â'u cynnwys yn ein gwaith. Daeth 34 ymateb i law, ac yn dilyn proses ddethol fanwl a chyfweliadau penderfynwyd penodi tri sefydliad i gynnal tair astudiaeth wahanol iawn.

Dyma'r tri sefydliad a'u hastudiaethau:

  • Re:cognition a ganolbwyntiodd ar ardal led-wledig o dlodi (PDF)
  • Fersiynau BSL o'r Adroddiad:

  • Richie Turner Associates, a luniodd dîm i ganolbwyntio ar bobl fyddar ac anabl (PDF)
  • Fersiynau BSL o'r Adroddiad:

  • Welsh Arts Anti-Racist Union a ganolbwyntiodd ar amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig (PDF)
  • Fersiynau BSL o'r Adroddiad

    Cafodd Covid-19 effaith ddifrifol ar y gwaith. Bu'n rhaid i'r tri sefydliad addasu eu dulliau gweithio. Mae'r tri adroddiad bellach wedi'u cwblhau ac wedi'u cyhoeddi isod.

    Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn croesawu canfyddiadau'r astudiaethau hyn. Roedd dulliau gweithio'r tri chorff yn canolbwyntio ar gydweithio â chymunedau yn hytrach na chymryd gwybodaeth ganddynt ac maent yn darparu ystod o ganfyddiadau ac argymhellion pwysig.

    Yn gynnar yn 2022, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar y cyd er mwyn gweithredu ar yr argymhellion

    Ar gyfer ein sefydliadau ni, mae'r gwaith hwn yn rhan allweddol o broses ehangach o newid, gan weithio gyda chymunedau sydd wedi ei chael hi'n anodd ein cyrraedd a sicrhau bod ein gwaith a'n dulliau o weithio yn fwy cyfartal.

    Mae'r gwaith yn cefnogi Cynllun Cydraddoldeb Strategol y ddau sefydliad, sy'n disgrifio ein penderfynoldeb i sicrhau cydraddoldeb, a'n hymrwymiad clir i gyrraedd holl gymunedau Cymru a gwella'r cyrhaeddiad hwnnw. Bydd y gwaith hefyd yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.