Lluniau

Ardal Blaenafon ym 1805

Rhan o fap o Sir Fynwy a gyhoeddwyd ym 1805. Roedd ffwrneisiau a phyllau glo yn dechrau ymddangos, ond nid oedd tref Blaenafon wedi'i nodi ar y map.

Diwydiant yn Sir Fynwy ym 1843

Mae'r map hwn o 1843 yn dangos sut roedd diwydiant wedi datblygu yng ngogledd Sir Fynwy ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Casnewydd tua 1860

Roedd poblogaeth Casnewydd ym 1800 ychydig dros 1000; erbyn hyn, roedd hi dros 23,000. Roedd ganddi Borthladd Tref mawr a chysylltiadau rheilffordd â threfi a dinasoedd pwysig eraill. Erbyn hyn, roedd hi’n allforio glo o’r cymoedd yn bennaf yn hytrach na haearn.

Casnewydd ym 1831

Erbyn 1831, roedd Casnewydd wedi tyfu'n sylweddol am y tro cyntaf mewn canrifoedd ar sail y cynnydd mewn masnach o lanfeydd ei hafon.

Casnewydd ym 1800

Cynllun o Gasnewydd ym 1800. Mewn amser byr iawn, roedd Casnewydd wedi newid o fod yn dref fechan, gysglyd, ganoloesol i fod yn borthladd pwysig ac yn ganolfan allforio ar gyfer cynnyrch gweithiau haearn Sir Fynwy fel Blaenafon.

Sir Fynwy ym 1724

Map o Sir Fynwy ym 1724 gan Herman Moll.

Eglwys Sant Pedr, Blaenafon

Llun o Eglwys Sant Pedr, Blaenafon tua throad y ganrif.

Eglwys Sant Pedr, tu mewn

Llun o'r tu mewn i Eglwys Sant Pedr.

Map o Flaenafon ym 1843

Cynllun o Flaenafon o fap degwm 1843.

Map o Sir Fynwy, 1765

Map o Sir Fynwy gan J. Ellis, cyhoeddwyd ym 1765.

Map manwl o Sir Fynwy 1765

Map manwl o ddyffryn Afon Llwyd (lle adeiladwyd Blaenafon maes o law) o fap Sir Fynwy 1765 J. Ellis.

Gwaith Haearn Blaenafon 1800

Print o Waith Haearn Blaenafon tua 1800 o lun gan Syr Richard Colt Hoare.